Myfyrwyr Cemeg yn gwirfoddoli mewn cymunedau yn Kenya
3 Medi 2018
Gwirfoddolodd pedwar o fyfyrwyr Cemeg eu hamser yn Kenya'r haf hwn i ddysgu Saesneg mewn ysgolion yn Nairobi.
Treuliodd William Osborne, Eloise Lewis, Mirela Johnson ac Alice Sturgess-Webb dair wythnos yn byw ac yn gweithio mewn cymunedau yn Nairobi fel rhan o raglen dysgu Gwirfoddolwyr Agape, prosiect elusennol â'r nod o gyfrannu’n gynaliadwy at gymunedau nad ydynt wedi'u datblygu.
Roedd y daith yn bosibl oherwydd Ysgoloriaeth Cyfle Byd-eang Ron Anderson, a sefydlwyd gan y cyn-fyfyriwr o Gaerdydd, Mr Ron Anderson (BSc 1969).
Yn ogystal â datblygu eu sgiliau dysgu eu hunain, roedd ein myfyrwyr yn gallu hybu dysgu Saesneg i blant mewn ysgolion oedd heb staff na chyllid digonol.
Dywedodd Mirela ychydig fwy wrthym am yr amser y bu'n dysgu. "Roeddwn i'n gweithio gyda graddau 1 a 2 gyda Will. Roedd y ddwy radd yn ffurfio un dosbarth bach gydag o ddeutu 12 o ddisgyblion, felly daethom ni nabod y plant i gyd.
"Roedd Will a fi gan fwyaf yn helpu drwy ddysgu gwersi Saesneg, Gwyddoniaeth a hyd yn oed Gwyddorau Cymdeithasol, ac er nad oedden ni wir yn gwybod llawer am hynny, roedden ni’n gallu helpu ein gilydd gyda syniadau ar sut i egluro'n hunain."
Ar wahân i ddysgu rheolaidd, aeth Eloise ati hefyd i helpu'r plant i ymarfer eu creadigrwydd.
"Roedd yn wych gallu dysgu celf a chrefft yn ystod y cyfnodau rhydd, oedd yn gyfle i'r plant wneud rhywbeth newydd a chyffrous i fynd ag e adre neu i addurno'r dosbarth."
Pan nad oedden nhw'n gwirfoddoli mewn ysgolion lleol, cafodd y myfyrwyr gyfle i grwydro Nairobi a rhannau eraill o Kenya. Mwynheuodd Eloise yn arbennig yr amrywiaeth o brofiadau: "Gwnaethon ni lwyth o bethau gwahanol o fynd ar daith feiciau o gwmpas 'Porth Uffern' a cherdded ceunentydd, i ymweld â Kibera sef y slym mwyaf yn Kenya. Un o fy hoff brofiadau oedd mynd ar saffari yn y Maasai Mara a gweld cynifer o anifeiliaid gwyllt oedd yn cael llonydd gan bobl, gan fyw yn dawel yn y Savannah."
Mae cyfleoedd fel hyn i wirfoddoli'n rhoi cipolwg gwych i'n myfyrwyr ar yr amrywiol lwybrau gyrfa sydd ar gael i raddedigion Cemeg, yn ogystal ag annog rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth fyd-eang rhwng gwahanol ddiwylliannau.
Mae amser Mirela yn Kenya hefyd wedi helpu i ffurfio ei chynlluniau at y dyfodol: "Ar ôl gwneud y rhaglen hon rwy'n credu y byddaf yn fwy tebygol o weithio i elusen os yw'n bosibl ar ôl graddio. Roeddwn i'n hoffi'r ffordd roedd staff Agape'n mwynhau eu swyddi fel nad oedd yn teimlo eu bod yn gweithio, ac rwy'n credu y byddwn i'n cael yr un boddhad o weithio i gwmni roeddwn i'n credu yn eu gwerthoedd."
Cafodd Eloise ei hysbrydoli hefyd gan ei thair wythnos yn Kenya: "Rwy'n bendant yn bwriadu dychwelyd mor aml â phosib yn y dyfodol i weld rhai o'r prosiectau gorffenedig hyn a gweithio ar y rhai newydd a gwneud hwn yn brosiect parhaus gydol oes i fi fy hun ar ôl y brifysgol."