Ewch i’r prif gynnwys

Chwalu ystrydebau'r diwylliant syrffio

17 Awst 2018

Daeth carfan o academyddion cenedlaethol a rhyngwladol i Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ar gyfer cynhadledd ar ddiwylliant syrffio (5 – 6 Gorffennaf 2018).

Trefnwyd y digwyddiad dau ddiwrnod gan yr Athro Jon Anderson a'r ymchwilydd PhD, Lyndsey Stoodley, fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau Ymgysylltiad ac Effaith Ymchwil yr Ysgol. Roedd hefyd yn ddigwyddiad lloeren o gyfarfod cyntaf Sefydliad Syrffwyr sy'n Fenywod Ewrop, ac wedi trefnu ar y cyd gyda'r Surf Senioritas..

Sefydlwyd y Sefydliad Syrffwyr sy'n Fenywod yn yr Unol Daleithiau yn 2014, a hwn oedd cyfarfod cyntaf y sefydliad y tu allan i Ogledd America.

Cafodd cymheiriaid academaidd o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd gwmni'r rheini a ddaeth o Brifysgol Plymouth, Prifysgol Caerwrangon, Prifysgol Rice (UDA) a Phrifysgol Queensland (Awstralia) yn y gynhadledd.

Esboniodd Lyndsey ddiben y digwyddiad, gan ddweud: "Ein nod oedd chwalu'r stereoteipiau sy'n gysylltiedig â syrffio a diwylliant syrffio, i ddeall yn well, ac archwilio'r amrywiaeth o brofiad o fewn y gymuned.

"Mae syrffio'n weithgaredd diwylliannol sydd â dylanwad cynyddol mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys amgylcheddaeth, ffasiwn, ffotograffiaeth, ffurfiau newydd o ffeminyddiaeth, cerddoriaeth a thwristiaeth. Fodd bynnag, i lawer mae'n parhau i fod yn weithgaredd sy'n bennaf yn wrywaidd, gwyn ac chorfforol abl. Mae'n bwysig, felly, ein bod yn nodi ac yn negyddu'r ystrydebau hyn."

Clywodd y rheiny oedd yno – mewn person yn ogystal â thrwy ffrydio'n fyw – gan ddwy ysgolhaig rhyngwladol ar ddiwrnod cyntaf y digwyddiad, sef yr Athro Krista Comer, Athro Saesneg ac Astudiaethau Ffeminyddiaeth ym Mhrifysgol Rice, UDA, a Dr Belinda Wheaton o Brifysgol Waikato, Seland Newydd.

Mae ffocws yr Athro Comer, sy'n awdur ar lyfrau'n cynnwys Landscapes of the New West: Gender and Geography in Contemporary Women’s Writing (1999) a Surfer Girls in the New World Order (2010), ar wleidyddiaeth ddiwylliannol, gyda diddordeb mewn lle a lleoliad. Mae Dr Wheaton yn ymwneud â gwleidyddiaeth diwylliant poblogaidd, ac yn enwedig gwleidyddiaeth ddiwylliannol diwylliannau chwaraeon ffordd o fyw.

Cafwyd trafodaeth bord gron ar yr ail ddiwrnod, lle cytunwyd ar nifer o amcanion byrdymor a hirdymor ar gyfer ysgolheictod syrffio.

Yn ôl yr Athro Jon Anderson: "Roedd yr ysgol yn falch i gynnal y digwyddiad pwysig hwn ac i gydweithio â Sefydliad Syrffwyr sy'n Fenywod. Roedd yn ddadl fywiog gydag amrywiaeth o wahanol farn, profiadau a safbwyntiau. Rydym yn edrych ymlaen at gyfleoedd i gydweithio eto yn y dyfodol a chyfleoedd i archwilio llwybrau newydd ar gyfer diwylliant ac arferion syrffio."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.