Arbed plant rhag camdriniaeth
29 Gorffennaf 2015
Prawf newydd i feddygon allu canfod plant sydd mewn perygl o farw yn sgil cam-drin corfforol
Mae arbenigwyr diogelu plant wedi datblygu prawf sydd wedi’i gynllunio i helpu meddygon i ganfod plant sy’n dioddef camdriniaeth gorfforol sy’n peryglu eu bywyd a galluogi’r gwasanaethau diogelu plant i’w gwarchod rhag niwed yn y dyfodol.
Trawma Camdriniol i’r Pen (AHT) – a elwir weithiau’n ‘syndrom ysgwyd babi’ – yw’r prif achos marwolaeth ymhlith plant sy’n cael eu cam-drin. Amcangyfrifir fod cynifer â 34 ym mhob 100,000 baban dan flwydd oed yn dioddef AHT, er nad oes modd gwybod beth yw’r gwir ffigur gan fod llawer o achosion o AHT yn cael eu colli ac mae’n bosib nad yw eraill yn dod i sylw clinigwyr.
I fynd i’r afael â hyn, mae
ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu a dilysu prawf diagnostig i
helpu meddygon i bennu pa mor debygol yw hi fod plentyn sydd ag anafiadau pen -
ac sy’n llai na dwy flwydd oed - wedi cael ei gam-drin. Disgrifir eu
canfyddiadau mewn
papur a gyhoeddir heddiw yn y cylchgrawn Pediatrics.
Gyda chywirdeb sydd wedi’i brofi, mae’r prawf hwn sy’n hawdd ei ddefnyddio yn
cynnwys rhestr o chwe arwydd clinigol sydd â gwahanol debygolrwydd o AHT er
mwyn helpu clinigwyr wneud eu penderfyniadau. Mae’r arwyddion hyn yn cynnwys
asennau wedi torri, torri esgyrn hir, atal anadlu, ffitiau, gwaedlif retinol
neu gleisio ar y pen a/neu wddf.
Yn dilyn yr asesiad, os yw meddygon yn canfod tri neu ragor o’r arwyddion hyn heb fod achos damweiniol amlwg, mae’n debygol iawn mai camdriniaeth yw achos yr anaf i’r pen. Yna bydd angen ymchwiliad pellach gan dîm o glinigwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes diogelu plant i gadarnhau neu wrthod AHT.
“Mae’n hanfodol bwysig fod trawma camdriniol i’r pen yn cael diagnosis cywir fel bod y tîm sy’n gofalu am y plentyn yn gallu sicrhau ei fod yn derbyn y cymorth priodol ac yn cael ei ddiogelu rhag niwed pellach,” meddai’r ymchwilydd arweiniol yr Athro Alison Kemp o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
“Mae’r un mor bwysig nad yw anafiadau damweiniol i’r pen yn cael diagnosis anghywir o gamdriniaeth, oherwydd gall hyn gael effaith ddinistriol ar y teuluoedd.
“Ond gall fod yn eithriadol o anodd gwneud y penderfyniadau hyn - yn enwedig i feddygon nad ydyn nhw’n gweld llawer o achosion o gam-drin plant yn ddifrifol. Mae’r astudiaeth hon yn cynnig pecyn clinigol yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n gallu rhagweld a helpu meddygon i wneud y penderfyniadau hynod o bwysig hyn, lle mae bywyd y plentyn yn aml yn y fantol.
“I bob pwrpas, rydym ni’n cyfuno’r dystiolaeth wyddonol ar flaenau bysedd y meddyg.”
Er mwyn cael diagnosis cywir, mae’r Athro Kemp yn prysuro i egluro bod rhaid
asesu canfyddiadau’r prawf ar y cyd â’r holl wybodaeth arall sydd ar gael am
amgylchiadau anafiadau’r plentyn a’i deulu.
Mewn cyfnod pan fo diagnosis o AHT yn parhau yn destun dadlau yn y parth
cyhoeddus a chyfreithiol, dywed yr Athro Kemp y gall y prawf gynnig cymorth
diagnostig ychwanegol i feddygon, wedi’i wreiddio mewn tystiolaeth wyddonol, i
gefnogi eu penderfyniadau.
Mae astudiaethau blaenorol yn amcangyfrif bod
hanner yr holl blant sy’n iau na dwy flwydd oed, ac sydd ag anaf trawmatig i’r
ymennydd, wedi dioddef AHT.
Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol, gallai’r prawf ‘Pred-AHT’ fel y’i gelwir fod
yn allweddol i helpu meddygon i adnabod plant sydd wedi dioddef AHT a hepgor y
rhai nad ydyn nhw wedi’i ddioddef.
Yn ôl yr ymchwilwyr bydd y prawf hwn yn hynod o werthfawr i feddygon llinell flaen, a hefyd i asiantaethau eraill sy’n ymwneud â phenderfyniadau diogelu plant fel yr heddlu, ymarferwyr cyfreithiol, gweithwyr cymdeithasol, y farnwriaeth a phatholegwyr fforensig. Mae’r gwaith yn canolbwyntio bellach ar roi Pred-AHT ar waith.
Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) sy’n cyllido’r prosiect, sy’n dal ar waith.