Technoleg yn helpu sêr Cwpan Rygbi’r Byd
29 Gorffennaf 2015
Sut mae technoleg yn helpu chwaraewyr rygbi i ddal pêl
Bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol i ddangos sut mae technoleg yn helpu sêr Cwpan Rygbi’r Byd eleni i ddal y bêl, beth bynnag yw’r tywydd.
Mae’r Brifysgol a Gilbert, gwneuthurwr peli Cwpan Rygbi’r Byd, wedi dod at ei gilydd i ddangos sut mae polymer yn arwyneb allanol y bêl yn gwneud iddi gasáu dŵr (hydroffobig) a glynu at ddwylo’r chwaraewyr.
Drwy gydol yr wythnos ar Faes yr Eisteddfod, bydd plant yn gallu cymryd rhan yn her Cwpan Rygbi’r Byd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Carwyn Owen, y crefftwr sy’n gyfrifol am wneud Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2015, wedi creu model 4.5m o led a 2m o uchder sydd wedi’i gynllunio’n arbennig i brofi sgiliau rygbi’r bobl ifanc a thynnu sylw at werth polymerau.
Mae’r cyfan yn rhan o arddangosfa a gweithgareddau Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a Chymdeithas Feddygol Prifysgol Caerdydd yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Meifod.
Bydd yr Athro Arwyn Jones, o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd, a Dr Gareth Llywelyn, o’r Gymdeithas Feddygol, yn gosod arddangosfa o’r enw Polymerau ar Waith.
Bydd yn amlygu nodweddion unigryw polymerau sy’n eu gwneud yn gydrannau delfrydol mewn deunyddiau rydym ni’n eu defnyddio bob dydd, yn ogystal â mewn dyfeisiau meddygol a nanofeddygol sy’n achub bywydau.
Bydd arddangosfa Polymerau ar Waith yn cynnwys yr elfen rygbi a dwy elfen arall - polymerau mewn cewynnau a pholymerau mewn stents cardiaidd, sef tiwbiau sy’n cael eu defnyddio i drin rhydwelïau cul neu wan.
Mae cewynnau’n gwneud eu gwaith yn dda diolch i bolymer sy’n caru dŵr (hydroffilig) sydd â gallu rhyfeddol i amsugno dŵr.
Mae hyn yn cadw pen-ôl y babi yn sych a’r dŵr y tu mewn i’r cewyn.
Bydd unrhyw un sy’n ymweld â’r Pafiliwn Gwyddoniaeth yn gallu gwneud arbrofion sy’n dangos mewn eiliadau sut mae’r polymer hwn yn amsugno dŵr nes ei fod dros ddwbl ei bwysau ei hun.
Yn y cyfamser mae stents cardiaidd yn helpu i wella’r cyflenwad gwaed i wythiennau’r galon ond mae rhai hefyd yn cynnwys polymer sy’n rhyddhau meddyginiaeth dros amser i rwystro llid.
Caiff y ffordd mae hyn yn gweithio ei egluro ynghyd ag ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a gyllidir gan EPSRC (y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol) sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio polymerau i dargedu cyffuriau at gelloedd canser a rhai sy’n achosi llawer o fathau eraill o glefydau. Mae’r EPSRC hefyd yn cyllido gweithgareddau’r Eisteddfod yn rhannol.