Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth newyddiaduraeth yn gadael ei hôl

28 Gorffennaf 2015

Llais y Maes

Mae partneriaeth newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr ac yn sicrhau etifeddiaeth gymunedol

Mae 2015 yn nodi blwyddyn olaf Llais y Maes, y newyddlen ddigidol ddwyieithog a redir gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Hyfforddwyd 18 o fyfyrwyr mewn sgiliau newyddiadurol allweddol fel creu cynnwys newyddion, ysgrifennu, golygu fideos a chwiliadau cymdeithasol fel rhan o brosiect tair blynedd, a gwblhawyd mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r myfyrwyr wedi llwyddo i gyflwyno’r ŵyl mewn golau gwahanol a dod o hyd i straeon newydd a fu’n rhan o raglenni BBC Wales, S4C ac ITV.

Sefydlwyd Llais y Maes yn 2012 fel y papur newydd digidol cyntaf erioed yn benodol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae’n cael ei redeg gan Emma Meese, Rheolwr Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd, a Sali Collins, darlithydd Newyddiaduraeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol Prifysgol Caerdydd. Nod y prosiect oedd rhoi her adrodd newyddiadurol gwirioneddol i fyfyrwyr, ac i roi gohebiaeth â gogwydd newydd a gwahanol i’r ŵyl.

Mae amryw o’r myfyrwyr a gymerodd ran yn y prosiect wedi llwyddo i gael swyddi gyda sefydliadau fel S4C a RNIB, gyda chymorth y sgiliau a ddysgwyd ganddynt ar faes yr Eisteddfod. Cymerodd Lily Price-Jenkins ran ym mlwyddyn gyntaf Llais y Maes ac ers hynny wedi llwyddo i gael ei swydd ddelfrydol fel Cynhyrchydd Cynorthwyol – Darganfod Cynnwys a Chymdeithasol (Adran Ar-lein a Dysgu) gyda BBC Cymru Wales.

Dywed Lily: “Bu Llais y Maes yn werthfawr iawn i mi yn fy ngyrfa hyd yma. Wrth gymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y prosiect yn Rhuthun, bu’n wych gweld y prosiect yn tyfu. Llwyddodd gweithio ar y prosiect i mi fedru datblygu sgiliau ymarferol hanfodol wrth feithrin rhwydwaith gwerthfawr o gysylltiadau, a bu’r ddwy elfen hon yn ddefnyddiol iawn o fewn fy ngyrfa ôl-raddedig. Ers gweithio ar Llais y Maes a graddio o Brifysgol Caerdydd, cadwodd y tîm mewn cysylltiad gan gynnig cymorth parhaus.”

Roedd y myfyriwr israddedig Toby Mott yn aelod o dîm Llais y Maes 2014, ac mae wedi mynd yn ei flaen i gael cryn lwyddiant mewn amryw o fentrau Prifysgol Caerdydd ac wedi ei gydnabod fel myfyriwr “Canmoliaeth Uchel” yng Ngwobrau Caerdydd. Dywed Toby: “Llwyddodd gweithio yn Llais y Maes nid yn unig i roi gogwydd ymarferol i mi ar fy ngradd newyddiaduraeth a oedd yn waith theori yn bennaf, ond hefyd rhoddodd y cyfle i mi feithrin fy sgiliau cynhyrchu (wrth ysgrifennu a ffilmio) o fewn ystafell newyddion fyw a hyper-lleol.”

Mae myfyrwyr sy’n astudio Cymraeg sydd wedi cymryd rhan yn Llais y Maes hefyd wedi dewis manteisio ar ddarpariaeth Cymraeg Prifysgol Caerdydd mewn astudiaethau newyddiaduraeth o ganlyniad yn uniongyrchol o’u profiadau.

Wrth i’r prosiect tair blynedd ddod i ben, mae gan Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd gynlluniau i sicrhau y bydd ei hetifeddiaeth yn parhau i’r dyfodol. Dan ysbrydoliaeth Llais y Maes, bu i Fenter Dinefwr o Sir Gaerfyrddin greu ei gwefan newyddion ei hun, Pobl Dinefwr, ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Dinefwr 2014. Bellach gobeithir y bydd grŵp cymunedol o Faldwyn a’r Gororau yn llwyddo i barhau ag etifeddiaeth Llais y Maes yn yr un modd gyda gwasanaeth hyper-lleol newydd.

Lansiodd Prifysgol Caerdydd Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol academaidd gyntaf y DU yn 2013 fel un o Brosiectau Ymgysylltu mwyaf blaenllaw Prifysgol Caerdydd, sydd â’r nod o weddnewid cymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt. Mae’r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn ymchwilio i mewn i’r sector twf hwn ac yn cynnig rhwydweithio, gwybodaeth a hyfforddiant i newyddiadurwyr cymunedol. Mae prosiectau ymgysylltu blaenllaw’r Brifysgol yn cydweithio â chymunedau ar faterion fel trechu tlodi, hybu’r economi a gwella iechyd, addysg a llesiant.

Law yn llaw â Llais y Maes, bydd y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn cynnal dau ddigwyddiad yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015 ar stondin Prifysgol Caerdydd:

  • Digidol ar Daith, 10am – 1pm, dydd Mawrth 4 Awst: sesiwn hyfforddi sgiliau ymarferol i annog aelodau o’r gymuned i greu a rhannu newyddion ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Dathlu cymunedau, hanner dydd, dydd Gwener 7 Awst: dod â phwyllgorau codi arian yr Eisteddfod at ei gilydd ynghyd â Phobl Dinefwr a fydd yn trafod sut all gwasanaethau newyddion gryfhau a chysylltu cymunedau yng Nghymru.