Pennaeth Ysgol yn cyfrannu at adroddiad blaenllaw ar iechyd llygaid y cyhoedd
22 Awst 2018
Mae Marcela Votruba, Pennaeth Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, wedi cyfrannu at adroddiad blaenllaw a luniwyd yn y DU. Nod yr adroddiad yw amlygu pwysigrwydd iechyd llygaid ymhlith y cyhoedd drwy dynnu sylw at y posibilrwydd o gynnal rhagor o ymchwil ar lygaid, a'r angen hanfodol am fwy o fuddsoddiad.
Cafodd adroddiad 'Llygaid Ymchwil - partner cyfartal', ei arwain gan fenter ymchwil y gwyddorau Vision Bridge, ac mae'n amlinellu'r cyswllt hanfodol rhwng gwaith labordy a chanlyniadau clinigol cadarnhaol. Mae’n amlygu pwysigrwydd a dylanwad ymchwil llygaid wrth ddarparu gofal llygaid o ansawdd, ond mae hefyd yn cyfiawnhau statws ymchwil llygaid fel partner cyfartal o ran gwella ansawdd bywyd y rhai â nam ar eu golwg.
Mae’r rhai sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad hwn, gan gynnwys Marcela, yn dadlau bod ymchwil llygaid yn parhau i gyflawni gwelliannau ym meysydd rhagfynegi, canfod, diagnosis a phrognosis. Fodd bynnag, maent hefyd yn cytuno bod angen buddsoddiad pellach mewn ymchwil yn y dyfodol i wella bywydau'r bobl sydd wedi’u heffeithio gan golli golwg.
"Roeddwn wrth fy modd pan gefais wahoddiad i gyfrannu at adroddiad mor bwysig", eglurodd Marcela, "Mae Vision Bridge yn sefydliad pwysig o ran sut mae’n codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o golli golwg ar draws y DU. Gyda lwc, bydd cyd-ymdrech yr ymchwilwyr fu’n gysylltiedig â'r adroddiad yn rhoi mwy o sylw i faes colli golwg ymhlith cyhoedd y DU.