Ymgeisydd benywaidd cyntaf Cymru
24 Awst 2018
Mae Millicent Mackenzie (1863–1942) wedi’i hychwanegu i’r cofnod cenedlaethol o ffigurau a lywiodd hanes Prydain.
Mae athro ac ymgeisydd seneddol benywaidd cyntaf Cymru, yr Athro Mackenzie, wedi’i chynnwys yn Oxford Dictionary of National Biography.
Cafodd Millicent Mackenzie ei phenodi'n Athro Addysg (Menywod) yn 1910 a’i dewis gan y Blaid Lafur ar gyfer etholaeth Prifysgol Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1918, ac mae ei dylanwad yn parhau hyd heddiw. Ysgrifennodd Dr Beth Jenkins, gynt o Brifysgol Caerdydd a bellach ym Mhrifysgol Essex, broffil yr arloeswr addysgol a gwleidyddol.
Gyrfa academaidd
Ym 1891, penodwyd yr Athro Mackenzie yn feistres normal yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, Caerdydd. Cafodd ei dyrchafu i fod yn Athro Cyswllt Addysg ym 1904 a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill statws athro llawn yng Nghymru ym 1910.
Ym 1916, sefydlodd The Guild of Education for National Service a Choleg Hyfforddi Halsey, cynllun hyfforddi sy’n canolbwyntio ar y plentyn i athrawon a gweithwyr cymdeithasol.
Yn ystod ei hamser yng Nghaerdydd, roedd yn ffigwr amlwg yn yr ymgais i drechu tlodi ac roedd ganddi rôl flaenllaw ym mudiad merched y ddinas. Roedd hi’n un o sylfaenwyr ac yn is-lywydd ar y Gymdeithas Pleidleisiau i Fenywod Caerdydd a’r Fro, ac yn gyd-sylfaenydd a llywydd cangen Caerdydd a’r Fro Ffederasiwn Menywod Prifysgolion Prydain.
Dywedodd Dr Jenkins: “Rwy’n falch iawn bod cyfraniad sylweddol Millicent Mackenzie i hanes Prydain yn cael ei gydnabod trwy ei chynnwys yn Oxford Dictionary of National Biography. Mae ei chyflawniad fel un o’r menywod cyntaf i gael ei phenodi i statws athro yn y DU yn hysbys i bawb...”
Gweithgareddau gwleidyddol
Ar ôl dwy o ddeddfau seneddol mawr 1918—Deddf y Senedd (Amod Benywaidd) a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl—cafodd yr Athro Mackenzie ganiatâd i sefyll fel ymgeisydd i’r Blaid Lafur ar gyfer etholaeth newydd Prifysgol Cymru, gan ddod yn ymgeisydd seneddol benywaidd cyntaf Cymru.
Penderfynodd graddedigion y Brifysgol i ethol ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol, Syr Herbert Lewis. Pe byddai’r Athro Mackenzie wedi bod yn llwyddiannus, hi fyddai’r fenyw gyntaf i gymryd ei sedd yn y senedd. Cafodd y chwyldroadwr Gwyddelig, yr Iarlles Constance Markievicz, ei hethol yn Etholiad Cyffredinol 1918, ond a hithau’n ymgeisydd Sinn Féin, ni chymerodd ei sedd. Byddai’n flwyddyn arall cyn i’r DU gael ei AS benywaidd cyntaf—Nancy Astor o’r Blaid Geidwadol—a degawd arall cyn i Gymru ethol ei AS benywaidd cyntaf, pan etholwyd Rhyddfrydwr, Megan Lloyd George, yn Ynys Môn.
Golygydd cynghorol y National Biography yw Dr Mari Takayanagi, Uwch Archifydd yn yr Archifau Seneddol. Ei hargymhelliad hi oedd cynnwys Millicent Mackenzie yn y diweddariad.
Dr Takayanagi: “Roeddwn i'n awyddus iawn i gynnwys cymaint â phosibl o'r un deg saith o fenywod arloesol a safodd yn etholiad cyffredinol 1918. Roedd gan rai ohonynt gofnodion, ond pan edrychais i weld pwy oedd ar goll, er mawr syndod i mi gwelais i fod Millicent Mackenzie yn eu plith.
“Roeddwn i'n falch iawn i argymell y dylai gael ei chynnwys yn yr Oxford Dictionary of National Biography, oherwydd ei galluoedd academaidd yn ogystal â'i statws fel un o'r ymgeiswyr Seneddol cyntaf...”
Ar ôl methu â chael lle yn y senedd, penderfynodd yr Athro Mackenzie a’i gŵr—yr athronydd a chyd-athro yn y Brifysgol, John Stuart Mackenzie—i deithio’r byd. Yn y Swistir, cyfarfu â’r diwygiwr cymdeithasol Rudolf Steiner ac, ar ôl gweld ei ddulliau ar waith, daeth yn gefnogwr brwd o ddulliau addysgol Steiner-Waldorf. Yn ei blynyddoedd diweddarach, dychwelodd i’w dinas enedigol, Bryste, cyn setlo gyda’i gŵr yn Nyffryn Gwy.