Mapio newidiadau mewn tafodieithoedd
28 Gorffennaf 2015
Bydd Dr Iwan Wyn Rees yn defnyddio’r Eisteddfod i ddysgu mwy am y ffordd mae tafodieithoedd Cymraeg yn newid
Bydd ieithydd o Brifysgol Caerdydd yn defnyddio’r Eisteddfod Genedlaethol i daflu goleuni ar y ffordd mae tafodieithoedd Cymraeg yn newid ar draws y wlad.
Mae Dr Iwan Wyn Rees, o Ysgol y Gymraeg, am ddysgu mwy am y modd mae tafodieithoedd wedi esblygu dros y degawdau diwethaf.
Gyda’i gydweithiwr Dr Jonathan Morris, mae’n llunio holiadur ar gyfer yr Eisteddfod eleni ym Maldwyn a’r Gororau i gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau ieithyddol yng Nghymru.
Mae Dr Rees yn awyddus i bob math o siaradwyr Cymraeg gyfrannu, beth bynnag eu hoed, eu lleoliad daearyddol neu eu gallu yn yr iaith.
“Beth, er enghraifft, yw effaith ieithyddol y cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru?” holodd.
“Yn yr un modd, pan fydd rhieni o’r gogledd a’r de yn symud i dref neu ddinas fel Aberystwyth neu Gaerdydd, pa fath o Gymraeg gaiff ei siarad gan eu plant?
“Bydd fy arolwg felly’n dechrau taflu goleuni ar y materion cymhleth ond hynod ddifyr hyn, a’r gobaith yw y bydd hefyd yn ysbrydoli myfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg i gynnal eu gwaith maes eu hunain.”
Mae Dr Rees eisoes wedi dechrau casglu data mewn gwahanol rannau o Faldwyn, a bydd y gwaith hwn yn ei gynorthwyo i bennu i ba raddau mae’r defnydd o wahanol nodweddion tafodieithol wedi newid.
Ond mae angen rhagor o ddata, yn enwedig ymhlith cenedlaethau iau yn y rhanbarth.
Bydd pafiliwn Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod yn cynnwys bwth recordio a chaiff ymwelwyr eu hannog i gyfrannu.
Ychwanegodd Dr Rees: “Dylid pwysleisio bod yr ymdrech diwethaf i fapio’r defnydd o eiriau tafodieithol Cymraeg ar lefel genedlaethol i’w weld yng ngwaith arloesol Alan R Thomas The Linguistic Geography of Wales, a gyhoeddwyd yn 1973.
“Er ei fod yn ddefnyddiol o hyd, mae rhagor o waith ar draws Cymru gyfan yn hanfodol os ydym am ddeall y prosesau ieithyddol sydd wedi digwydd dros y degawdau diweddar.”
Bydd Dr Rees yn siarad am dafodieithoedd mewn digwyddiad ym mhafiliwn y Brifysgol ddydd Mercher 5 Awst am 1-2pm.
Cynhelir yr Eisteddfod eleni ym Maldwyn a’r Gororau, ym Meifod, rhwng 1-8 Awst.
Bydd pafiliwn y Brifysgol yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn cynnwys gweithgareddau i’r teulu, ffilmiau, lluniaeth a chyswllt diwifr am ddim.
Bydd gwybodaeth ar gael am y modd mae’r Brifysgol yn cefnogi’r Gymraeg, gan gynnwys amrywiol fodiwlau cyfrwng Cymraeg ar ystod eang o gyrsiau gradd.
Y Brifysgol yw cartref Cangen Caerdydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n gwneud argymhellion am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i’r Bwrdd Academaidd ac sy’n ystyried ein cynlluniau am ddatblygiadau pellach yn y maes hwn.