Dyfarnu canolfan ragoriaeth seibr-ddiogelwch gyntaf Cymru
22 Awst 2018
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â rhestr nodedig o sefydliadau academaidd sy'n helpu i wneud y DU y lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ar-lein ynddo.
Mae'r Brifysgol wedi'i henwi yn Ganolfan Ragoriaeth mewn Ymchwil Seibr-ddiogelwch gan Ganolfan Seibr-ddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC), y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ennill y statws hwn.
Mae'r dyfarniad yn gydnabyddiaeth o'r ymchwil rhagorol yn rhyngwladol a ddatblygwyd yn y Brifysgol dros nifer o flynyddoedd, a bydd yn caniatáu i academyddion fwydo'n uniongyrchol i strategaeth Llywodraeth y DU sy'n sicrhau bod y wlad yn gallu gwrthsefyll ymosodiadau seibr yn well.
At hynny, fel Canolfan Ragoriaeth bydd y Brifysgol yn meithrin talent ifanc ac yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes seibr-ddiogelwch.
Lansiwyd yr NCSC yn 2016 fel rhan o'r GCHQ i helpu i warchod gwasanaethau hanfodol y DU rhag ymosodiadau seibr, rheoli digwyddiadau mawr a gwella diogelwch sylfaenol Rhyngrwyd y DU drwy welliannau technolegol a chyngor i ddinasyddion a sefydliadau.
Ers hynny mae wedi atal miloedd o ymosodiadau, darparu cymorth hanfodol i Luoedd Arfog y DU a rheoli cannoedd o ddigwyddiadau.
Mae Caerdydd yn ymuno â rhestr nodedig o sefydliadau academaidd sy’n helpu i gefnogi cenhadaeth yr NCSC, gan gynnwys Prifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Bryste a Choleg y Brifysgol Llundain.
Fel rhan o'r cynllun, bydd Prifysgol Caerdydd yn benodol yn canolbwyntio ar sut y gellid defnyddio deallusrwydd artiffisial i fonitro, dynodi a mynd i'r afael ag ymosodiadau seibr.
“Ein hunaniaeth graidd yw asio deallusrwydd artiffisial a seibr-ddiogelwch yn rhyngddisgyblaethol, cysyniad rydym ni'n ei alw'n Ddadansoddeg Seibr-Ddiogelwch. Mae deallusrwydd artiffisial yn ganolog i strategaeth ddiwydiannol llywodraeth y DU a'n nod yw arloesi gyda deallusrwydd artiffisial i wella gwybodaeth wedi'i hawtomeiddio am fygythiadau seibr a chefnogi penderfyniadau ac ymatebion polisi i sicrhau bod y DU yn fwy diogel i unigolion, busnesau a'r llywodraeth.
“Rydym ni'n falch i fod y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael cydnabyddiaeth yr NCSC am ein gallu ymchwil seibr, ac rydym ni'n gobeithio adeiladu ar yr arbenigedd trawiadol sydd eisoes yn bodoli ar draws y rhanbarth rhwng y byd academaidd, llywodraeth a busnes.”
Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes profedig o ragoriaeth ymchwil mewn seibr-ddiogelwch ac mae ganddi gysylltiadau agos eisoes gyda llywodraeth a diwydiant.
Lansiwyd Canolfan Ragoriaeth Airbus mewn Dadansoddeg Seibr-ddiogelwch yn ddiweddar i gynnal ymchwil pellach i'r cyswllt rhwng deallusrwydd artiffisial a seibr-ddiogelwch, y ganolfan gayntaf o'i math yn Ewrop. Nod yr ymchwil yn y ganolfan yw diogelu rhwydweithiau TG corfforaethol, eiddo deallusol a seilwaith cenedlaethol hanfodol.
Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Mae cydnabyddiaeth gan y Ganolfan Seibr-ddiogelwch Genedlaethol yn dilysu arbenigedd y Brifysgol sy'n arwain y byd, ac yn dangos effaith ein hymchwil yn y byd real ar draws y DU.
“Mewn cyfnod sydd â bygythiadau i'n seilwaith hanfodol na welwyd eu tebyg erioed, mae'n arbennig o galonogol gweld ymchwil Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu at ymdrechion i ganfod ac atal ymosodiadau seibr.”
Dywedodd Margot James, y Gweinidog dros Faterion Digidol: “Mae'r prifysgolion hyn yn gwneud ymchwil ardderchog ym maes seiber-ddiogelwch ac maent yn cael eu cydnabod yn briodol am eu gwaith arloesol..”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns: “Mae’r ffaith fod Prifysgol Caerdydd wedi’i chydnabod yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Diogelwch Seiber, yn cadarnhau bod Cymru yn cynnig addysg uwch o’r radd flaenaf. Mae hefyd yn amlygu uchelgais Cymru i fod ar flaen y gad o ran hyfforddi arbenigwyr seiber…”