'Balchder' wrth i'r Eisteddfod ddychwelyd i Meifod
28 Gorffennaf 2015
Eisteddfod arbennig i awdur cyfieithiad clodwiw o'r Mabinogion
Bydd Eisteddfod Genedlaethol eleni yn un llawn balchder i un o academyddion Prifysgol Caerdydd sydd â chysylltiad arbennig iawn â'r ardal.
Cafodd yr Athro Sioned Davies, sy'n adnabyddus am ei chyfieithiad Saesneg o'r Mabinogion, ei geni a'i magu yn Sir Drefaldwyn.
Er ei bod hi wedi byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer, mae hi'n dal i ystyried Sir Drefaldwyn yn gartref iddi, ac mae hi'n "falch iawn" o gael dychwelyd i Meifod, sy'n cynnal y digwyddiad eleni rhwng 1 a 8 Awst ar ran Maldwyn a'r Gororau.
"Mae'n ardal arbennig iawn. Mae'n rhan o 'Bowys paradwys Cymru' yn ôl un bardd Cymraeg canoloesol, " meddai'r Athro Davies.
"Ceir tuedd i sôn am Gymru yn nhermau'r gogledd a'r de yn unig. Mae pobl yn aml yn anghofio am Sir Drefaldwyn, calon Cymru, gyda'i golygfeydd hardd, ei hanes hynod ddiddorol a'i thafodiaith Gymraeg heriol.
"Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod ym Meifod am y tro cyntaf, yn ôl yn 2003, roedd pobl yn gofyn 'Ble yn y byd mae Meifod'? Yn sicr, fe wnaeth pobl Sir Drefaldwyn roi Meifod ar y map y flwyddyn honno, a rhoi i Gymru Eisteddfod na fyddai'n mynd yn angof."
Roedd Sioned yn byw ym mhentref Llanbrynmair, yng ngorllewin Sir Drefaldwyn, lle'r oedd ei thad yn brifathro, cyn symud tua'r dwyrain i Clatter yn chwech oed. Wedi hyn, symudodd i'r Trallwng, nid nepell o Meifod.
Bydd yr Athro Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yn dychwelyd i'w milltir sgwâr i roi dwy sgwrs am y Mabinogion, yn ogystal â thraddodi Darlith Goffa Hedley Gibbard am gyfieithu Alice's Adventures in Wonderland i'r Gymraeg.
Y bwriad yn wreiddiol oedd i'w chyfieithiad o'r Mabinogion fod at ddefnydd academaidd yn bennaf, ond mae hygyrchedd y gwaith wedi arwain at adfywiad ymhell y tu hwnt i'r byd academaidd.
Mae ei thriniaeth fanwl o'r testun wedi galluogi cynulleidfaoedd modern i ddeall sut byddai gwrandawyr canoloesol wedi ei ddeall, ac yn bwysicach byth, sut byddai wedi cael ei berfformio.
Mae wedi arwain at adfywiad yn yr arfer o adrodd y Mabinogion gan storïwyr cyfoes, yn dilyn cyfres o weithdai llwyddiannus.
Yn ogystal, comisiynodd Seren Books awduron arobryn i ailddyfeisio'r straeon gwreiddiol mewn cyfres o'r enw New Stories from the Mabinogion.
Defnyddiwyd y cyfieithiad hefyd i ddatblygu llwybrau twristiaeth fel Llwybr y Twrch Trwyth yn Sir Gaerfyrddin.
Meddai’r Athro Davies: "Mae'r effaith y mae fy ymchwil i'r Mabinogion wedi'i chael yn gyffrous iawn.
"Mae wedi bod yn brofiad anhygoel cael gweithio gyda storïwyr proffesiynol, er enghraifft, i ail-greu'r chwedlau canoloesol hyn a'u cyfleu i gynulleidfa fodern.
"Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae pedwaredd gainc y Mabinogi wedi cael ei haddasu yn sioe gerdd (Gwydion) yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
"Mae hyn oll yn dangos pa mor berthnasol yw'r Mabinogion i gynulleidfaoedd yn yr 21ain ganrif."
Cynhelir yr Eisteddfod eleni ym Maldwyn a’r Gororau, ym Meifod, rhwng 1 a 8 Awst.