Ewch i’r prif gynnwys

Great Expectations? The Evolution of Education through Five Generations of Women

20 Awst 2018

Alex Philips
The Evolution of Education through Five Generations of Women

Dr Alex Phillips, tiwtor Addysg Barhaus a Phroffesiynol, yn myfyrio ar y newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol aruthrol sydd wedi effeithio ar fywydau benywod yn ystod y can mlynedd diwethaf Drwy ymchwilio i hanes benywod yn ei theulu, mae Alex yn archwilio ym mha ffyrdd y mae chwyldro mewn arferion addysgol a chyfleoedd wedi agor byd o bosibiliadau ar gyfer ei merched ei hun, yn ogystal â chyflawniadau benywod yn fwy cyffredinol. Fel y mae hi’n pwysleisio’n ofalus, mae hanesion y rhai a aeth o'n blaen yn rhai personol iawn, ond hefyd ag arwyddocâd gwleidyddol dwfn.  

Rwyf wedi dangos i’m merched, a aned yn yr 21ain ganrif, fodrwy briodas eu hen-hen-famgu (HHF), a aned yn y 19eg ganrif.  Roeddwn i yn y dosbarth meithrin pan fu hi farw, ond rwy yn ei chofio hi.  Fe aethon ni i ymweld â’i thŷ yng nghefn gwlad. Bu'n sgwrsio â mam ac yn rhoi losin i mi. Pan gafodd HHF ei geni, y Frenhines Victoria oedd ar yr orsedd, ond dim ond dynion oedd yn aelodau o’r Senedd.  Doedd dim hawl gan fenywod i bleidleisio mewn etholiadau cenedlaethol. Ond tu allan i'r sefydliad, roedd pobl yn gwthio am gydraddoldeb. Tua adeg ei geni, sefydlwyd Coleg St. Hilda gan Dorothy Beale ac agor ei drysau i fyfyrwyr benyw (daeth yn un o golegau Prifysgol Rhydychen yn 1960).

Erbyn i HHF ddechrau yn yr ysgol, roedd Millicent Fawcett wedi sefydlu Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau’r Bleidlais i Fenywod (NUWSS). Ar ôl troad y ganrif, symudodd sylw oddi wrth yr ymgyrchwyr heddychlon dros bleidlais i fenywod i’r swffragetiaid, pan sefydlwyd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod gan Emmeline Pankhurst, yn 1903.

Wrth i’m merched wylio’r Red Arrows yn ysgrifennu '100' ar draws yr awyr â’u hanwedd, i anrhydeddu canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol, meddyliais am ddiwedd y Rhyfel Mawr yn 1918 a’r ymgyrchwyr dros bleidlais i fenywod yn y Deyrnas Unedig. Mae'n 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais (er bod hynny os oeddent dros 30 yn unig), ac i Constance Markievicz gael ei hethol yn fenyw gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin. Rwy’n dychmygu bywyd HHF fel olwyn fechan yn troi gyda miliynau o rai eraill mewn peirianwaith a chynllwynion ganrif yn ôl.

Priododd HHF ar ôl y rhyfel mawr. Yn 1920 rhoddodd enedigaeth i’r cyntaf o’i phedwar o blant, merch (HF) y byddai ei dwy ferch yn dod i’w hadnabod fel eu hen famgu. Byddai HHF wedi gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol 1924. Mae’n bosib iawn ei bod wedi darllen A Room of One’s Own gan Virginia Woolf pan gafodd ei gyhoeddi yn 1929. Ond roedd llawer o rwystrau i'w goresgyn, yn enwedig rhai sy'n gysylltiedig â chyfleoedd a disgwyliadau.

Tyfodd HF, a’i holynodd, i fyny yn y 1920au, ar adeg pan nad oedd disgwyl i blant aros yn yr ysgol ar ôl cyrraedd 12 oed.  Gallai addysg barhau os oedd gan eich rhieni ddigon o arian i’ch anfon i ysgol breifat, neu petaech chi’n llwyddo i ennill ysgoloriaeth i’r ysgol ramadeg. Doedd yr opsiynau hyn ddim ar gael i lawer.  Beth hoffech chi wneud ar ôl tyfu i fyny? Yr ateb mwyaf tebygol i ferched oedd ‘priodi’.

Priododd HF ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd a chael dau o blant: bachgen a merch (Mamgu). Gwelwyd newid cymdeithasol pellach yn sgîl adfeilion yr ail wrthdaro byd-eang trychinebus, gan gynnwys ffurfio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948. Er bod oedi ar y cychwyn oherwydd y rhyfel, paratôdd deddfwriaeth y ffordd ar gyfer addysg uwchradd wedi’i noddi gan y wladwriaeth hyd at 16 oed.

Bellach roedd gan Mamgu, oedd yn mynychu ysgol bentref leol yn y 1950au, gyfle i barhau â’i haddysg mewn ysgol ramadeg neu ysgol ‘uwchradd fodern’.  Roedd rhaid i Mamgu a’i ffrindiau ysgol sefyll arholiad o’r enw yr ‘11-plus’.  Mae profion cenedlaethol yn achosi llawer o ddadleuon tanbaid ar hyn o bryd, ond dylid cofio bod arholiadau o’r fath yn digwydd, ar yr adeg hon, yng nghyd-destun gwella mynediad i addysg.

Mamgu oedd un o'r ychydig yn ei dosbarth i basio arholiad yr ‘11-plus’ a sicrhau lle mewn ysgol ramadeg. Roedd hi wrth ei bodd yn wynebu’r her, a gwnaeth yn fawr o’i chyfleoedd, gan ragori yn ei harholiadau lefel ‘O’ ac ‘A’.  Ond wrth gyrraedd lefel addysg uwch, trawodd Mamgu y nenfwd gwydr nesaf.  Dim ond tua 1 o bob 20 person ifanc oedd yn mynd i’r Brifysgol yn y 1960au, ac roedd stigma diwylliannol am fenywod yn datblygu’n ddeallusion ‘ysgolheigaidd’.

Fodd bynnag, roedd Mamgu yn benderfynol o gael gyrfa a chyflawni ar lefel uchel (ryw ffordd neu’i gilydd), felly daeth yn Stiward Awyr ar gyfer Corfforaeth Awyr Tramor Prydain (BOAC), swydd oedd yn cael ei hystyried yn un aruchel, gyda chyflog da. Roedd hi’n falch o’i gwisg swyddogol, a bu’n teithio ar draws y byd.  Yn anffodus, bryd hynny roedd BOAC yn mynnu bod rhaid i aelodau benywaidd eu criw fod yn sengl a rhwng 21 a 27 oed (er nad oedd ots gan neb bod peilot gwryw yn briod). Daeth â’i gyrfa newydd i ben er mwyn priodi fy nhad.

Wrth i’r degawd nesaf wawrio, dechreuodd deddfwriaeth ddal i fyny gydag annhegwch arferion cyflogaeth; pasiwyd Deddf Cyflog Cyfartal yn 1970.  Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Germaine Greer The Female Eunuch (1970) a chyhoeddodd Simone de Beauvoir The Second Sex (1970). Yn ystod yr ail don o ffeministiaeth, roedd Mamgu yn benderfynol y dylai bywyd gynnig mwy o gyfleoedd i mi.

Er fy mod i’n aml yn fy amau fy hun, roedd hi bob amser yn credu yn fy ngalluoedd, ac fe anogodd fi i anelu’n uchel ar hyd fy nghyfnod ym myd addysg. Yn anad dim, bu’n meithrin y disgwyl y byddwn i’n gallu mynd i’r brifysgol.   Bant â fi i Gaerdydd, gyda cherdyn ffôn BT a llu o CDs Pearl Jam, Metallica, R.E.M. a Blur, i astudio ar gyfer gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg.

A dyma fi heddiw, yn teimlo’n ffodus mod i heb orfod dewis rhwng cael teulu a chael gyrfa. Nawr mae’n bryd i mi annog eraill i fynd ar ôl eu huchelgais, cwestiynu popeth maen nhw’n ei ddarllen, credu ynddynt eu hunain, mynegi eu barn, ac ymuno mewn trafodaethau.

Wrth nodi canmlwyddiant yr ymgyrchu i sicrhau pleidlais i fenywod yn y Deyrnas Unedig, roeddwn i am ddathlu cyflawniadau awduron benyw yn eu geiriau eu hunain, gyda modiwl oedd yn archwilio newid cymdeithasol a diwylliannol yn y 19eg a’r 20fed ganrif.  Y teitl yw ‘Murder, She Wrote: Women and Crime Fiction’.  Dewisais ffuglen droseddol oherwydd y cysylltiad â’r camweddau sydd o dan yr wyneb yn ein cymdeithas, ac yn datgelu cynifer o ddiffygion, rhagfarnau ac ymddygiad rhagrithiol.  Rydw i wrth fy modd gyda’r genre chwyldroadol hwn.

Mae edrych yn ôl 100 mlynedd yn ein hatgoffa i beidio â chymryd hawliau a chyfrifoldebau yn ganiataol. Trwy ddeall effaith digwyddiadau hanesyddol ar ein teuluoedd ein hunain y gallwn ddechrau eu deall yn llawnach.  Ymhen rhai blynyddoedd, rwy’n gobeithio y bydd fy merched yn cael cyfle i fynd i’r brifysgol, ac yn credu digon ynddynt eu hunain i fanteisio ar y cyfle hwnnw, os byddan nhw’n dymuno. Mae ein teithiau yn rhai personol a gwleidyddol. Rydym ar ymdaith i’r dyfodol.

Mae Dr Alex Philips yn arbenigwr ar naratifau genres ffuglen ac antur y 19eg a’r 20fed garif, ac mae’n diwtor profiadol dros ben ym maes addysg oedolion, gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol, yn ogystal â’r Brifysgol Agored.   I gael rhagor o wybodaeth am gwrs newydd Alex, Murder She Wrote: Women and Crime Fiction,  cliciwch yma. Ar gyfer pob cwrs arall yn y dyniaethau, gan gynnwys llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol, ewch i’n  gwefan.

Rhannu’r stori hon