Labordy newydd i fynd i’r afael â heriau mawr y gwasanaethau cyhoeddus
28 Gorffennaf 2015
Prifysgol Caerdydd a Nesta yn creu labordy newydd i fynd i’r afael â heriau mawr y gwasanaethau cyhoeddus
Mae Prifysgol Caerdydd a Nesta, yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, wedi sefydlu labordy newydd ar gyfer arloesedd yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Bwriad ‘Y Lab’ yw dyfeisio a phrofi datrysiadau newydd i heriau mawr yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan ymdrin â nifer o brosiectau gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gyda’r rhai cyntaf yn dechrau ym mis Medi.
Bydd academyddion yng Nghaerdydd yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr arloesedd Nesta i fodelu dulliau gwahanol o ymdrin â heriau cymdeithas, gan helpu i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn ymateb yn y ffordd orau bosibl, er mwyn cyflenwi canlyniadau effeithiol ac effeithlon. Y nod yw sicrhau cymorth ymarferol, gan gyfrannu at agenda Llywodraeth Cymru o hyrwyddo arloesedd ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, y Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae hanes hir gan y Brifysgol o helpu’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i wella, gan gynghori ar fentrau fel ad-drefnu llywodraeth leol, gwella polisïau addysg, a chyfrannu at ddatblygiadau iechyd cyhoeddus.
“Gydag ymarferwyr arloesedd Nesta, byddwn ni’n mynd i’r afael â’r materion pwysig sy’n cael effaith ar lesiant a llewyrch ein poblogaeth gyfan.”
Dywedodd Simon Brindle, cyfarwyddwr Y Lab: “Mae angen diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn fwy nag erioed. Bydd Y Lab yn cefnogi dull mwy systematig o dreialu a phrofi datblygiadau newydd yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan dynnu ar brofiad ac arbenigedd ar draws Nesta a Phrifysgol Caerdydd.”
Eglurodd Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews yr angen am arloesedd yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ei araith yn y Sefydliad Materion Cymreig yn gynharach eleni . Ychwanegodd Andrews: “Rwyf i wedi bod yn glir yn gyson am y trawsnewidiad yr hoffwn ei weld yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac mae Y Lab yn rhan bwysig o’r gwaith i gefnogi’r agenda hwnnw.
Rwyf i wrth fy modd fod Y Lab bellach ar waith, ac fel un o’i brosiectau cyntaf, ei fod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ei rôl bosibl yn gweinyddu a chyflenwi’r Gronfa Arloesedd Digidol a gyhoeddais i’n ddiweddar.”