Gwella mynediad at feddygaeth i ddisgyblion o Gymru
17 Awst 2018
O ganlyniad i gefnogaeth myfyrwyr meddygaeth Prifysgol Caerdydd, mae disgyblion mewn ysgolion ledled Cymru yn cael cyfle gwell i sicrhau lle yn yr ysgol meddygaeth.
Trwy eu Cynllun WAMMS, mae myfyrwyr yr Ysgol Meddygaeth wedi bod yn helpu disgyblion gyda'u ceisiadau a'u cyfweliadau, ac yn rhoi llawer o gyngor defnyddiol.
Mae'r fenter, dan arweiniad David Lawson, sydd newydd gwblhau ei 5ed flwyddyn yn astudio meddygaeth, wedi helpu disgyblion mewn dros 26 o ysgolion (200 o ddisgyblion) ledled Cymru.
Mae un o'r myfyrwyr hyn, Megan Bone - Ysgol Gymunedol Sant Cenydd yng Nghaerffili - newydd dderbyn ei chanlyniadau Safon Uwch a sicrhau lle i astudio meddygaeth yng Nghaerdydd.
Roedd Megan yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a roddodd WAMMS iddi. Dywedodd: "Roedd y cyngor a gefais gan y myfyriwr meddygaeth o gymorth i mi pan ysgrifennais fy natganiad personol.
Roedd hi hefyd wedi fy helpu i baratoi ar gyfer y cyfweliad, drwy fy helpu i roi atebion hyderus a threfnus. Fi yw'r cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol, felly mae'r gefnogaeth a gefais gan WAMMS, ynghyd â'r gefnogaeth wych gan yr ysgol, wedi bod yn bwysig iawn i mi."
Dywedodd Ceri Bown, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymunedol Sant Cenydd; "Megan yw'r cyntaf yn yr ysgol i ennill lle mewn ysgol meddygaeth yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Roedd y myfyriwr a wnaeth ei helpu, Rebecca Whitworth, yn wych a rhoddodd lawer o awgrymiadau a chyngor defnyddiol iddi. Rhoddodd yr hyder i Megan i gredu yn ei hun a chredu y gall hi fod yn feddyg yn y dyfodol.
Rydym mor falch o Megan a byddwn yn parhau i groesawu'r myfyrwyr meddygaeth i'n hysgol fel y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn. Dyhead ein hysgol yw i bob disgybl fod yn uchelgeisiol a chyflawni. Mae gweithio mewn partneriaeth â WAMMS wedi ein helpu i gyflawni hyn."
Ychwanegodd Rebecca Whitworth, y myfyriwr meddygaeth; "Fe wnes i fwynhau helpu Megan, ac rwy'n falch iawn drosti; mae hi'n llwyr haeddu y lle yn yr ysgol meddygaeth. Mae cymryd rhan yn y cynllun hwn yn bwysig iawn i mi oherwydd mae yna lawer o ysgolion sydd heb gael cymaint a hynny o brofiad mewn gwneud cais i astudio meddygaeth. Dyma lle gall myfyrwyr meddygaeth wneud gwahaniaeth go iawn."
O ganlyniad uniongyrchol i raglen ymgysylltu WAMMS, ynghyd ag eraill, mae nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn parhau i dyfu.
Dywedodd yr Athro Dave Wilson, Cadeirydd Grŵp Derbyn yr Ysgol Meddygaeth: "Ein myfyrwyr yw ein llysgenhadon gorau ac maent yn awyddus i gefnogi disgyblion yng Nghymru. Mae'n glir bod angen i fwy o ddisgyblion yng Nghymru ystyried meddygaeth fel gyrfa, ac rydym yn gobeithio y bydd WAMMS yn codi dyheadau ac yn rhoi hyder i fwy o ddisgyblion yng Nghymru i wneud cais."