Arian gan AHRC i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o academyddion yn y celfyddydau a'r dyniaethau
16 Awst 2018
Bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr yn cael arian gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau dros wyth mlynedd i gynnig goruchwyliaeth, hyfforddiant a chymorth datblygu sgiliau o 2019 ymlaen.
Mae'r Consortiwm – menter gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd ac wyth o brifysgolion eraill: Aberystwyth, Sba Caerfaddon, Bryste, Cranfield, Caerwysg, Reading, Southampton ac UWE – yn un o 10 partneriaeth hyfforddiant doethurol sydd wedi cael cyfanswm o £170 miliwn gan AHRC.
Cafodd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr ei sefydlu yn 2014, ac mae wedi addasu ac ehangu i fod yn bartneriaeth strategol ranbarthol fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
Yn ogystal â chroesawu aelodau newydd, Prifysgol Cranfield a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, mae'r consortiwm wedi ffurfioli ei aelodaeth gyda Sefydliad Ymchwil Annibynnol, Amgueddfa Cymru.
Bydd y Consortiwm yn cynnig ysgoloriaethau ôl-raddedig, Gwobrau Doethurol Cydweithredol, a chyfleoedd hyfforddiant a datblygu ar draws yr amrywiaeth lawn o ddisgyblaethau AHRC, gyda phwyslais cryf ar gydweithio rhwng aelodau'r consortiwm a 23 o bartneriaid diwylliannol, celfyddydol, treftadol a diwylliannol, gan gynnwys Aardman Animations, Cyngor Celfyddydau De-orllewin Lloegr, Partneriaethau Amgueddfeydd Cernyw, a Lloegr Hanesyddol.
Mae consortiwm Cymru a De a Gorllewin Lloegr wedi ymrwymo i ddatblygu dulliau creadigol ar draws ymchwil ddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol fydd yn hwyluso'r gwaith o ddatblygu cymunedau newydd o ysgolheigion, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n hyblyg ac yn gallu ymateb i ymchwil ac amgylcheddau diwydiannol sy'n datblygu'n gyflym.
Bydd yr arian yn golygu y bydd modd datblygu cronfa amrywiol o ymchwilwyr medrus a phroffesiynol sydd wedi eu hyfforddi'n dda, a fydd yn cyfrannu at les diwylliannol, economaidd a chymdeithasol y DU.
Bydd yr Athro Mark Llewellyn, Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn aelod o Fwrdd Cyflawni’r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol. Dywedodd yr Athro Llewellyn: “Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o allu ychwanegu at y gwaith a wnaed fel rhan o gonsortiwm Cymru a De a Gorllewin Lloegr dan y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol gyntaf. Bydd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn elwa ar amrywiaeth eang o bynciau ac arbenigedd goruchwylio yng Nghaerdydd, ac yn cael budd timau aml-sefydliad a chyfleoedd hyfforddiant. Cydweithio, partneriaeth, hyblygrwydd, amrywiaeth eang o bartneriaid diwylliannol a chreadigol ar gyfer lleoliadau a gweithgareddau eraill - bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr yn galluogi ymchwilwyr newydd i ddatblygu rhaglenni unigol ochr yn ochr â’r gwaith ar gyfer eu traethawd ymchwil.
“Dyma fuddsoddiad mewn talentau ar gyfer y degawd nesaf wrth i garfannau newydd o fyfyrwyr ymchwil fanteisio ar fywiogrwydd ein sefydliadau a chyfrannu at hynny. Yn bwysig ar gyfer Caerdydd, Cymru, a’r sector yn ei gyfanrwydd, bydd y math newydd o waith gydag ased mor flaenllaw ag Amgueddfa Cymru a’i lle fel aelod o gonsortiwm Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yn datblygu gwaith partneriaeth a chydweithio ar draws sefydliadau ymchwil mewn ffyrdd newydd wrth i ni gyd-ddylunio a chyd-greu gwybodaeth, profiadau ymchwil, ac amgylcheddau ymchwil ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd yr Athro Edward Harcourt, Cyfarwyddwr Ymchwil, Strategaeth ac Arloesedd AHRC: "Mae AHRC wrth ei fodd i gyhoeddi ei ymrwymiad unwaith eto at fodel Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol. Mae ein cefnogaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yn y celfyddydau a'r dyniaethau'n hanfodol i ddiogelu dyfodol sector y celfyddydau a'r dyniaethau yn y DU, sy'n cynnwys bron i draean o holl staff academaidd y DU, sy'n enwog yn fyd-eang am ei safon ragorol, ac sy'n chwarae rhan hanfodol yn ein hecosystem addysg yn ei chyfanrwydd.
"Rydym yn falch dros ben â'r ymateb i'n galwad, a chawsom geisiadau o safon uchel o ledled y DU gan amrywiaeth o gonsortia amrywiol ac arloesol, a phob un ohonynt â strategaeth a gweledigaeth glir ar gyfer cefnogi eu myfyrwyr doethurol yn y dyfodol."