Bryngaer yn y tywod
15 Awst 2018
Mae Traeth Bae Whitmore wedi cael mwy na'i siâr o gestyll tywod, ond dim byd fel hyn.
Cynhaliwyd gweithgaredd ailadeiladu bryngaer Oes Haearn Caerau ar draethlin enwog y Barri ddydd Sadwrn, 11 Awst.
Bryngaer Caerau, yng nghymunedau Caerau a Threlái yn Ne Orllewin Caerdydd, yw un o safleoedd archeolegol pwysicaf ond lleiaf adnabyddus y ddinas.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan brosiect Treftadaeth CAER Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Grŵp Archaeoleg Guerilla a gyda chymorth Cydweithfa Stiwdio CAER. Mae'n rhan o ymdrech ehangach gan academyddion yn y Brifysgol i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth ar garreg ein drws.
Dywedodd yr Athro Jacqui Mulville, Pennaeth Archaeoleg a Chadwraeth a Chyfarwyddwr Grŵp Archaeoleg Guerilla: "Adeiladodd pobl Oes yr Haearn strwythur trawiadol wedi'i amgylchynu â ffosydd a llethrau – sy'n ddatganiad anhygoel am eu hunaniaeth.
"Daeth pobl at ei gilydd yn ein digwyddiad i adeiladu bryngaer tywod sy'n talu teyrnged i'n cyndeidiau cynhanesyddol. Roedd hefyd yn gyfle i wneud ffrindiau, cael hwyl, a chreu rhywbeth arbennig."