Y dystiolaeth orau eto o wreiddiau 6,000 mlwydd oed Caerdydd
27 Gorffennaf 2015
Mae digwyddiad cloddio cymunedol mawr yn un o fryngaerau mwyaf arwyddocaol Cymru o Oes yr Haearn wedi datgelu'r "dystiolaeth orau eto" bod gwreiddiau prifddinas Cymru yn dyddio yn ôl 6,000 o flynyddoedd i'r Oes Neolithig gynnar (4,000 - 3,300 CC)
Mae digwyddiad cloddio pedair wythnos ym Mryngaer Caerau, ar gyrion gorllewinol Caerdydd, wedi datgelu clostir Neolithig enfawr gyda sarn ynghlwm wrtho – dyma heneb y dywed archaeolegwyr ei fod yn "eithriadol o brin". Dim ond pump arall y gwn eu bod yn bodoli yng Nghymru.
Yn ogystal, wrth ymgymryd â'r gwaith o gloddio'r safle – sydd dros 3 hectar mewn maint – daethpwyd o hyd i'r casgliad mwyaf o grochenwaith Neolithig cynnar i'w ddarganfod yng Nghymru erioed, ynghyd ag esgyrn anifeiliaid, bwyelli cerrig ac offer fflint.
Daw'r darganfyddiadau yn sgîl trydydd tymor y gwaith archaeolegol ym Mryngaer Caerau, sy'n cynnig tystiolaeth hynod o wreiddiau Caerdydd yn Oes y Cerrig.
Roedd digwyddiad cloddio eleni yn cynnwys dros 200 o wirfoddolwyr lleol a oedd yn gweithio ochr yn ochr ag archaeolegwyr, er mwyn bod ar flaen y gad o ran datgelu'r darganfyddiadau diweddaraf. Fe wnaeth y digwyddiad cloddio pedair wythnos ddenu 2000 o ymwelwyr o Gaerau a Threlái a'r cymunedau cyfagos.
Mae Prosiect Treftadaeth CAER yn brosiect cydweithredol rhwng Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol, y sefydliad cymunedol Action Caerau and Ely (ACE) ac ysgolion lleol.
Dywedodd Dr Oliver Davis, Cyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol: "Roedd gwaith cloddio yn 2014 wedi awgrymu y bu gweithgarwch Neolithig ar y bryn, o bosibl, ond mae maint anhygoel y safle a chyflwr y darganfyddiadau eleni wedi rhagori ar ein disgwyliadau a'n rhyfeddu ni i gyd.
"Mae'n annhebygol mai treflan ydoedd; yn hytrach, mae'n bosibl mai man cyfarfod ydoedd lle byddai rhai o ffermwyr cyntaf Cymru wedi ymgasglu ar adegau penodol o'r flwyddyn i sefydlu cysylltiadau cymunedol drwy weithgareddau gan gynnwys gwledda, cyfnewid a pherfformio defodau".
Ychwanegodd
Dr Dave Wyatt, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol: "Unwaith eto, mae'r cymunedau o amgylch y bryn wedi bod wrth wraidd y
gwaith o ddatgelu stori anhygoel y safle hwn, a fu unwaith yn ganolbwynt pŵer
rhanbarth Caerdydd. Eleni, tyfodd y tîm wrth i gannoedd o wirfoddolwyr lleol o
bob oedran ddod i roi help llaw, yn ogystal â miloedd o ymwelwyr. Mae talent a
chynhesrwydd pobl Caerau a Threlái wedi dod i'r amlwg drwy gydol y gwaith
cloddio.
"Mae darganfyddiadau'n dal i gael eu gwneud, mae'r bobl yn dal i ddod, ac
mae cymuned Treftadaeth CAER yn dal i dyfu a chryfhau."
Un rhan o Brosiect Treftadaeth CAER yw'r gwaith cloddio hwn. Ei fwriad yw rhoi i'r gymuned well dealltwriaeth o'u treftadaeth a gorffennol hynod ddiddorol yr ardal, a rhoi cyfle iddynt ennill sgiliau newydd, meithrin hyder a chydweithio yn y gymuned ar yr un pryd.