Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu triniaethau gwell ar gyfer salwch meddwl

14 Awst 2018

Image of the brain

Bydd grant o £650,000 gan Sefydliad Waterloo yn galluogi ymchwilwyr ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu triniaethau arloesol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl gwanychol.

Bydd y cyllid newydd yn galluogi'r ymchwilwyr i adeiladu ar waith y rhaglen Newid Meddyliau sydd wedi eu galluogi i gael dealltwriaeth well o’r systemau yn yr ymennydd sy'n gyfrifol am achosi anhwylderau seiciatrig.

Drwy astudio data genetig miloedd o gleifion, mae Dr Nick Clifton, cydymaith Newid Meddyliau, wedi nodi grwpiau o brotein sy'n bwysig ar gyfer datblygiad yr ymennydd, y cof a dysgu. Mae'r rhain yn ganolog yn natblygiad clefydau seiciatrig. Mae ei syniadau yn gam cyffrous tuag at ddylunio therapiwteg newydd fydd yn targedu proteinau o'r fath ac yn pwysleisio'r oedran a all fod fwyaf effeithiol ar gyfer therapi.

Mae Dr Clifton yn gweithio yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NHMRI) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ers ei lansio yn 2014, mae Changing Minds wedi cefnogi wyth Cymrawd, gan eu galluogi i ddatblygu eu prosiectau annibynnol cyntaf ar ddiwedd eu doethuriaethau. Yn awr, mae rhodd arall o £650,000 gan Sefydliad Waterloo yn adeiladu ar y gwaith hwn i lansio'r rhaglen Newid Meddyliau newydd - rhaglen a gynlluniwyd i gydnabod yr amrywiaeth o heriau gyrfaol cynnar sy'n ysgogi creadigrwydd ac arloesedd ymhlith ymchwilwyr newydd.

Dywedodd yr Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl y Brifysgol: "Mae datblygiadau diweddar mewn geneteg a niwrowyddoniaeth wedi dangos bod nifer o anhwylderau seiciatryddol cyffredin yn tarddu o ddatblygiad cynnar yr ymennydd. Mae rhan sylweddol o'n hymchwil yn canolbwyntio ar sut mae ffactorau genetig ac amgylcheddol sy'n gweithredu ar ddatblygiad yr ymennydd yn dylanwadu ar y perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl.

Bydd Newid Meddyliau yn cefnogi ymchwilwyr fel Dr Clifton drwy eu hannog i ddatblygu eu hymchwil unigryw eu hunain, gan ddarparu hyfforddiant datblygu sgiliau. Bydd hefyd yn cysylltu Cymrodyr â gwaith partneriaid diwydiannol ac elusennol, ac yn cynnig hyfforddiant estynedig mewn mentora, cyfathrebu a sgiliau arweinyddiaeth er mwyn ymgysylltu â'r cyhoedd.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Mae cefnogaeth barhaus Sefydliad Waterloo i'r bartneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd yn wych. Bydd y rhodd hael hwn yn ein galluogi i ymgorffori gwyddonwyr ifanc talentog yn un o dimau niwrowyddoniaeth a thimau ymchwil iechyd meddwl gorau'r byd, fel eu bod yn gallu datblygu dulliau arloesol o fynd i’r afael â chlefydau a chyflyrau iechyd meddwl gwanychol."

Dywedodd Sylfaenydd a Chadeirydd Sefydliad Waterloo, yr Athro Heather Stevens: "Rydym yn falch iawn o'r bartneriaeth lwyddiannus a hynod werthfawr yr ydym wedi ei datblygu gyda NMHRI. Credwn y bydd rhaglen Newid Meddyliau yn adeiladu ac yn gwella ein partneriaeth ymhellach drwy gefnogi'r prif arweinwyr ymchwil ifanc, sy'n parhau â'r her o ymchwilio i anhwylderau niwroddatblygiadol ac iechyd meddwl yn fwy cyffredinol.  Yr ymchwilwyr hyn fydd yn y sefyllfa orau i wneud darganfyddiadau cyffrous, cael gwell dealltwriaeth, a datblygu triniaethau newydd a therapïau i helpu plant ac oedolion sy'n byw gyda'r amodau heriol hyn. Mae Sefydliad Waterloo yn falch ofnadwy o fod yn rhan o'r bartneriaeth hon."

Bydd Newid Meddyliau yn dechrau ym mis Hydref 2018 ac yn cael ei chynnal am chwe blynedd academaidd, tan fis Medi 2024.  Bydd pob Cymrodoriaeth yn ddwy flynedd o hyd. Bydd Cymrawd 1 yn cael ei benodi i ddechrau ym mis Hydref 2018, gyda Chymrawd 2 yn cael eu benodi'r flwyddyn ganlynol ac yn y blaen, gan olygu bod mwy nag un yn gweithio ar yr un pryd tan y flwyddyn olaf.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch fwy am sut mae Prifysgol Caerdydd wedi cael budd o fod â ffrindiau a chefnogwyr hael fel chi.