Cael effaith
13 Awst 2018
Mae Darllenydd o Brifysgol Caerdydd mewn Ymchwil Arthritis a Chyfarwyddwr Arloesedd ac Effaith wedi’i henwi’n Gyfarwyddwr newydd Canolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU.
Yn ddiweddar, mae Ymchwil Arthritis y DU a Phrifysgol Caerdydd wedi penodi Dr Valerie Sparkes yn gyfarwyddwr nesaf Canolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU. Mae Dr Sparkes yn Ddarllenydd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Dechreuodd Dr Sparkes ei rôl newydd ddydd Mercher 1 Awst 2018. Mae'r penodiad hwn yn dilyn ymddeoliad yr Athro Bruce Caterson, cyn-gyfarwyddwr y ganolfan, ddiwedd mis Gorffennaf 2018.
Mae Dr Sparkes wedi bod yn gysylltiedig â’r ganolfan o’r cychwyn cyntaf ac fe helpodd i lywio strategaeth y Ganolfan wrth iddi gael ei hariannu am ail dymor. Mae'n aelod o Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd (CITER), ac mae’n Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Ymchwil Orthopedig Prydain.
Dywedodd Dr Sparkes: "Mae gan y Ganolfan rai o’r cyfleusterau ymchwil diweddaraf gan gynnwys y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Cyhyrysgerbydol yn yr Ysgol Peirianneg, Labordy Rhyngweithiol Rhithwir sy’n Dadansoddi Cerddediadau yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, a chyfres o gyfarpar niwroddelweddu yng Nanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd - yr unig gyfarpar o’r fath yn Ewrop."
Nod Dr Sparkes yw defnyddio cryfder y tîm o ymchwilwyr yn y Ganolfan, yn ogystal â’r technolegau modern ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn cydweithio rhagor a datblygu elfen amlddisgyblaethol yr ymchwil sydd eisoes yn cael ei chynnal yn y Ganolfan.
I gael gwybod rhagor, ewch i wefan Canolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU.