Dyheadau'r rhai sy'n gadael yr ysgol yn amrywio’n helaeth yn ôl ble maent yn astudio
8 Awst 2018
Mae ymchwil wedi canfod y gall ysgolion gael dylanwad enfawr ar ddewisiadau myfyrwyr ynghylch addysg uwch, ni waeth beth yw'r graddau a gyflawnir ganddynt.
Dilynodd yr astudiaeth, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, lwybrau addysgol pob disgybl ym Mlwyddyn 11 ledled Cymru rhwng 2005 a 2007. Os yr ysgol oedd yr unig ffactor newidiol, mae'r canfyddiadau'n dangos fod pobl ifanc sydd â'r un graddau yn gwneud penderfyniadau gwahanol iawn ynghylch mynd i brifysgol ai peidio.
Ymhlith y 195 o ysgolion uwchradd yng Nghymru, fe wnaeth ymchwilwyr ganfod oddeutu 46 o ysgolion lle'r oedd pobl ifanc 35% yn fwy tebygol o fynd ymlaen i addysg uwch, a 35 o ysgolion lle'r oedd pobl ifanc 35% yn llai tebygol o wneud hynny. Mewn rhai ysgolion, roedd y tebygolrwydd o fynd i'r brifysgol cymaint â 250% yn uwch na'r cyfartaledd. Tra bod y tebygolrwydd o fynd i brifysgol cymaint â 80% yn is mewn ysgolion eraill.
Mae'r ffigurau'n datgelu fod effaith yr ysgol y mae disgybl yn ei mynychu hyd yn oed yn fwy amlwg pan ddaeth i p'un a oeddent yn mynd i brifysgolion o’r radd flaenaf neu beidio.
Daeth i’r amlwg nad oedd ansawdd cyffredinol yr ysgol, ei maint, a ph'un a oedd gwersi yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg yn effeithio ar y gwahaniaethau hyn. Mewn gwirionedd, roedd y disgyblion o ysgolion a gafodd eu categoreiddio fel rhai "coch" neu sydd angen y gefnogaeth fwyaf o dan y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion, ar gyfartaledd, yn fwy tebygol o fynd ymlaen i addysg uwch. Mae hyn o’i gymharu â phobl ifanc erall tebyg o ran lefel eu cyrhaeddiad a’u cefndir cymdeithasol-economaidd.
Dywedodd Prif Awdur Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), yr Athro Chris Taylor: "Mae'r canfyddiadau'n awgrymu nad cyfrifoldeb prifysgolion yn unig yw ehangu mynediad, a bod gan ysgolion hefyd rôl bwysig wrth ddylanwadu ar ddewisiadau addysgol ymadawyr, ni waeth beth fo lefelau eu cyrhaeddiad. Mae gan y ffordd y mae dyheadau addysg uwch yn cael eu trafod, eu cyflwyno a'u gweithredu mewn ysgolion rôl bwysig wrth i unigolyn ifanc ddod i benderfyniad.
Cyhoeddwyd 'The effect of schools on school leavers' university participation' yng nghyfnodolyn School Effectiveness and School Improvement ac mae ar gael yma.