Gwobr i fyfyriwr Addysg Gydol Oes
27 Gorffennaf 2015
Gardd a ysbrydolwyd gan Winnie the Pooh yn cyrraedd y brig mewn sioe flodau
Ar ôl dilyn cwrs hanes gerddi mae myfyriwr Addysg Gydol Oes o Brifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Aur yn Sioe Flodau’r RHS ym Mhalas Hampton Court.
Enillodd Anthea Guthrie y wobr am yr Ardd Hanesyddol Orau yn y sioe a drefnwyd gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.
Ysbrydolwyd ei gardd, ‘Winnie the Pooh Begins His Journey’, gan straeon AA Milne a’r cwrs hanes gerddi dan arweiniad Stephen Parker yn y Ganolfan ar gyfer Addysg Gydol Oes yn 2014.
Roedd y cwrs yn edrych ar erddi nifer o awduron oedd yn hynod o greadigol, ac fe ysbrydolodd Anthea i gynllunio ei gardd ei hun.
Dywedodd: “Roedd cyflwyniadau Stephen yn agoriad llygad a dechreuais i feddwl am greu gardd gydag encilfa i awdur ynddi. Ychwanegais ddimensiwn arall i’w gwneud yn fwy dynol a rhoi ymdeimlad o amser iddi.
“Daeth ethos llaw, pen a chalon y mudiad celf a chrefft, y diddordeb enfawr mewn natur a’r syniad fod ysbrydoliaeth yn dod gan blentyn at ei gilydd i greu 'Winnie the Pooh Begins His Journey'.
“Mae hanes gerddi yn bwnc gwych a hynod o ddifyr i unrhyw un sy’n hoffi hanes cymdeithasol, dylunio, ac wrth gwrs gerddi.”
Wrth fynd ati i ddylunio’r ardd, dychmygodd Anthea fyd lle byddai AA Milne yn ysgrifennu yn ei encilfa yn y goedwig ac yn cael ei ysbrydoli drwy weld ei fab Christopher Robin yn chwarae gyda’i deganau - y Winnie the Pooh gwreiddiol a’r holl gymeriadau eraill.
Mae’r ardd yn cyfuno themâu dychymyg y plentyn a chreadigrwydd yr oedolyn drwy fod yn lloches i awdur a hefyd yn faes chwarae gwyllt i blentyn.
Mae Anthea a’i gŵr wedi mynychu cyrsiau yng Nghanolfan Addysg Gydol Oes Caerdydd ac yn llawn brwdfrydedd amdanyn nhw.
Dywedodd: “Rwyf i’n credu yn gryf mewn dysgu gydol oes a thros y blynyddoedd rwyf i wedi cael rhesymau lu i fod yn ddiolchgar i’r tiwtoriaid yn y Ganolfan.
“Rydyn ni’n dau yn raddedigion o Gaerdydd, ac roedden ni’n gweld eisiau astudio. Bellach, yn enwedig wrth i ni agosáu at ymddeol, mae’n dda gwybod y byddwn ni’n gallu dewis o blith cyrsiau dydd a gyda’r nos.”
Sioe Flodau’r RHS yn Hampton Court yw sioe flodau mwyaf y byd ac eleni roedd yn dathlu chwarter canrif.