Profion cyflymach ar gyfer heintiau'r ysgyfaint
27 Gorffennaf 2015
Datblygiad pwysig cyntaf gwyddonwyr mewn 50 mlynedd o ran canfod heintiau ffibrosis yr ysgyfaint ar fin trawsnewid miloedd o fywydau
Mae gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd wedi datblygu dull diagnostig newydd
sy’n cynnig diagnosis cyflym a chywir digyffelyb o heintiau'r ysgyfaint mewn
cleifion sydd â ffibrosis systig – clefyd sy'n effeithio ar tua 9,000 o bobl yn
y DU.
Maent yn credu y bydd y datblygiad newydd hwn yn trawsnewid ansawdd bywydau
80-95% o gleifion ffibrosis systig fydd yn marw yn y pen draw o ganlyniad i
fethiant anadlol a achosir gan haint bacteriol cronig yn yr ysgyfaint.
Mae gwybod yn union beth sydd o'i le yn ysgyfaint cleifion yn golygu y gall
clinigwyr ddechrau trin heintiau ar unwaith gyda’r gwrthfiotigau cywir, a bod
cleifion yn cael cyfle gwell a chyflymach i wella. Mae gan hyn oblygiadau
pwysig hefyd o ran lleihau ymwrthedd i lu o gyffuriau o ganlyniad i gael
gwrthfiotigau a roddir yn ddiangen ar brescripsiwn.
Mae pobl sydd â ffibrosis systig yn dueddol o gael heintiau'r ysgyfaint. Mae’r
rhain yn cynnwys bacteria sy'n achosi nifer o glefydau lluosog fel Pseudomonas
sy’n gallu gwrthsefyll sawl cyffur gan achosi dirywiad cyflym oni bai eu
bod yn cael eu hamlygu a’u trin yn gyflym.
Yn ôl yr ymchwilwyr - tîm cydweithredol o Brifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth
Sefydliad GIG Ysbyty Prifysgol De Manceinion - nid yw’r dull presennol o wneud
diagnosis o haint bacteriol, sy'n dibynnu ar brofion meithrin, wedi newid yn
sylweddol ers dros hanner canrif.
Yn ogystal â bod yn ddull llafurus a chostus, honnir bod y dull yn ddiffygiol
ac nad ydyw’n canfod y bacteria marwol sydd mewn heintiau mewn 11% o achosion,
a bod cannoedd o’r rhain mewn unrhyw sampl o ysgyfaint cleifion.
Yn rhifyn heddiw o’r Journal of Clinical Microbiology, mae’r tîm yn
dangos sut y gall prawf genetig syml amlygu ganfod heintiau’r ysgyfaint yn
gyflym ymhlith cleifion ffibrosis a chynnig asesiad mwy cywir o’r holl fathau o
facteria sy'n bresennol.
Mae’r prawf newydd yn defnyddio DNA wedi’i ynysu o samplau yn yr ysgyfaint. Defnyddir y dull hwn yn gyffredinol ledled y DU i wneud diagnosis o heintiau firysol. Yn ôl ymchwilwyr, gallai defnyddio’r DNA parod hwn wrth gynnal profion ar y cyd, chwyldroi’r modd y cynhelir diagnosis o heintiau microbaidd yn y dyfodol.
Ar ben hynny, mae canfod straeniau ffyrnig o facteria yn gynnar yn hanfodol er mwyn arafu lledaeniad heintiau mewn ysbytai a chlinigau.
Mae gwyddonwyr eisoes yn defnyddio DNA wedi’i ynysu o samplau clinigol i
ganfod firysau fel ffliw mewn labordai firoleg iechyd cyhoeddus. Gallai’r
dechneg hon o wneud diagnosis o heintiau bacteriol ymhlith cleifion ffibrosis
systig, gan ddefnyddio data o DNA’r claf, hefyd gael ei defnyddio wrth drin
cyflyrau anadlol eraill fel asthma ac anhwylder cronig yr ysgyfaint.
Mae’r Athro Eshwar Mahenthiralingam, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd,
wedi bod yn astudio heintiau ffibrosis systig yr ysgyfaint ers dros 20 mlynedd
ac mae’n cael ei gydnabod fel ffigwr blaenllaw ym maes astudio bacteria
ystyfnig sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau. Meddai:
"Ar sail astudiaethau ymchwil sydd wedi’u cynnal dros y 10 mlynedd
diwethaf, rydym yn gwybod bod sawl math o facteria yn achosi heintiau’r
ysgyfaint ymhlith pobl â ffibrosis. Fodd bynnag, nid yw’r diagnosis arferol a
gynhelir mewn labordai iechyd cyhoeddus o hyd yn ystyried yr amrywiaeth hwn
mewn samplau.
"Drwy fanteisio ar ddulliau prosesu samplau firoleg a defnyddio profion
genetig bacteriol syml, gallwn wneud diagnosis cywir o heintiau sydd â bacteria
arbennig o ystyfnig sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau.
"Bydd cynnal diagnosis gwell o’r heintiau hyn yn gwella triniaeth,
ansawdd bywyd a goroesiad ymhlith pobl â ffibrosis systig. Gallai’r profion hyn
gael eu cyflwyno leled y GIG ar unwaith.
"Bydd cam nesaf ein hastudiaeth yn ceisio gwerthuso effeithiolrwydd y
cynllun diagnostig o ran gwella safonau gofal i bobl â ffibrosis systig, yn
ogystal ag asesu faint fydd yn cael ei arbed o ran costau i’r GIG."
Meddai’r Athro Alexander McAdam, patholegydd o Ysbyty Plant Prifysgol Harvard
yn Boston:
"Mae’n debygol iawn y bydd defnyddio dulliau genetig i ganfod mathau o
facteria yn dod yn rhan o’r gofal clinigol a roddir i’r cleifion hyn.
"Mae'r dulliau hyn yn datgelu mwy am y mathau o facteria sydd yn yr
ysgyfaint na’r hyn y gallwn ei ganfod gyda dulliau meithrin
confensiynol. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o'r dulliau genetig yn rhai
tra thechnegol, a bydd yn anodd eu defnyddio mewn labordai clinigol.
"Mae’r astudiaeth hon yn bwysig am ei bod yn disgrifio dull a allai gael
ei ddefnyddio’n fwy parod gan labordai clinigol."
Dywedodd Janet Allen, Cyfarwyddwr Ymchwil a Gofal
yn yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig:
"Mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn symud gwyddonwyr gam yn nes at
gyflwyno techneg gyflymach a mwy cywir o ganfod natur y bacteria syn heintio
ysgyfaint pobl â ffibrosis systig.
"Mae ffibrosis systig yn gwneud yr ysgyfaint yn agored i heintiau. Mae’n
achosi craith a difrod i’r ysgyfaint gan arwain at gylch dieflig o fwy o
heintiau a llid. Ar gyfartaledd, mae unigolyn sydd â ffibrosis systig yn colli
2% o swyddogaeth eu hysgyfaint bob blwyddyn yn ystod eu hoes, ac maent yn
gorfod dibynnu ar ocsigen ychwanegol, peiriannau i'w helpu i anadlu a
thrawsblaniadau ysgyfaint yn y pen draw.
"Bydd y datblygiad hwn yn galluogi clinigwyr i adnabod y microbiome sydd
yn yr ysgyfaint yn gyflymach. Ar ben hynny, gallai gael ei ehangu i
ganfod firysau yn ogystal ag edrych ar y berthynas rhwng heintiau firysol a
heintiau bacteriol.
"Mae angen gwneud rhagor nawr i edrych ar sut gellir ymgorffori’r dechneg
hon mewn prosesau diagnostig a gynhelir ar hyn o bryd."