Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd i’w sefydlu yn swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol
6 Awst 2018
Mewn digwyddiad arbennig ym Mhabell Prifysgol Caerdydd am 17:30 ddydd Gwener 10 Awst, bydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd yn cael ei lansio’n swyddogol gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Bydd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, yn ymuno fel siaradwraig gwadd.
Fis Ebrill 2017, cyhoeddwyd y byddai undeb o fyfyrwyr yn cael ei sefydlu o fewn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a fyddai’n gyfrifol am gynrychioli siaradwyr Cymraeg y Brifysgol. Enw’r undeb hwn fyddai Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC). Daethpwyd y cyhoeddiad hwn, ar ôl ymgyrch a arweiniwyd gan fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol, ac ar ôl i 87% o Senedd y Myfyrwyr bleidleisio o blaid sefydlu Undeb o’i fath. Croesawyd y cyhoeddiad hwn gan fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd, a gwelodd sefydliad UMCC fel dechrau i bennod newydd i’r Gymraeg o fewn yr Undeb a’r Brifysgol ym mhrif ddinas Cymru.
Mae UMCC yn gorff a fydd yn cynrychioli myfyrwyr Cymraeg Caerdydd ym mhob agwedd o’u bywydau yn y Brifysgol – boed yn academaidd, cymdeithasol, ieithyddol, gwleidyddol, neu gyda materion lles o fewn yr Undeb a’r Brifysgol. Mae UMCC yn gorff sydd yn cynrychioli pob siaradwr Cymraeg. Boed yn siaradwr rhugl neu ddysgwr pur. Boed yn fyfyriwr yng Nghampws Cathays neu’r Mynydd Bychan. Boed yn rhywun sydd eisiau siarad Cymraeg bob dydd neu ei ddefnyddio yn achlysurol. Mae UMCC yn cynrychioli ac yn cynnwys pawb.
Ynghyd â chynrychioli myfyrwyr y Brifysgol o ddydd i ddydd yn eu bywydau ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gan UMCC nifer o amcanion y bydd yn ceisio eu cyflawni dros y blynyddoedd sydd i ddod. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys:
- Pontio’r bwlch rhwng myfyrwyr Cymraeg â’r Undeb a’r Brifysgol, a sicrhau nad ydynt yn teimlo’n ynysig o’r prif gorff o fyfyrwyr yma yn y Brifysgol.
- Sicrhau fod myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn derbyn eu hawliau yn ddiofyn ac yn ddieithriad, gan gynnwys eu hawliau cyfreithiol yn sgil Rheoliadau Safonau’r Gymraeg sydd yn y broses o gael eu gosod ar y Brifysgol, ac o fewn wrth Undeb yn sgil Polisi Iaith Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a lansiwyd yn 2016.
- Sicrhau fod cymuned gref, fywiog ac amrywiol o siaradwyr Cymraeg yn y Brifysgol, ac y gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg a’i diwylliant deimlo fel rhan o’r gymuned honno.
- Creu perthynas rhagweithiol a chynhyrchiol rhwng y gymuned o siaradwyr Cymraeg â’r Undeb a’r Brifysgol, er mwyn sicrhau y gallwn barhau ar y daith tuag at gydraddoldeb ieithyddol law yn llaw â’n gilydd.
- Ymgyrchu dros gydraddoldeb ieithyddol yma yn y brifddinas, a gweithio’n ddiflino i sicrhau y gall myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd fyw drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ers cyhoeddi y byddai UMCC yn cael ei sefydlu, mae pwyllgor UMCC wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni i sefydlu UMCC, ac i sicrhau ei fod yn gorff fydd yn gallu cynrychioli myfyrwyr Cymraeg y brifddinas i’r eithaf. Erbyn hyn, mae UMCC yn barod i gynnig presenoldeb pwysig a dylanwadol o fewn yr Undeb a’r Brifysgol, ac yn barod i gyfrannu’n gadarnhaol at fywydau siaradwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd i orau eu gallu.
Er mwyn pwysleisio a hyrwyddo hyn, byddent yn cynnal lansiad swyddogol ddydd Gwener 10 Awst am 17:30, ym Mhabell Prifysgol Caerdydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd y lansiad yn cael ei arwain gan Osian Morgan, a arweiniodd yr ymgyrch i sefydlu UMCC yn 2016/17, a oedd yn Llywydd cyntaf ar UMCC yn ystod y flwyddyn academaidd 2017/18. Yn ogystal, bydd darpar lywydd UMCC, a fydd yn llywyddu UMCC dros y flwyddyn academaidd nesaf, yn manteisio ar y cyfle i ddweud ychydig o eiriau am ei weledigaeth ef/hi ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod (Cynhelir etholiadau ar gyfer y rôl hon dros yr wythnos nesaf). Yna, i goroni’r digwyddiad, bydd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, yn ymuno fel siaradwraig gwadd, i sôn ychydig am y Gymraeg o fewn Prifysgolion Cymru, ac am Safonau’r Gymraeg, yn benodol.
Dywed Llywydd UMCC, Osian Morgan “Rydym yn hynod o gyffrous i gynnal lansiad UMCC yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae hyn yn gyfle euraidd i ni hyrwyddo’r datblygiadau cyffrous i’r Gymraeg o fewn y Brifysgol ar lawr gwlad. Gyda’r brifwyl yn ymweld â’r brifddinas eleni, mae’n addas iawn mai yn y brifwyl hon y byddwn yn dathlu’r datblygiad cadarnhaol hwn i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd.
Bydd lansio UMCC nid yn unig yn ffordd o hyrwyddo’r ffaith ein bod bellach yn barod i fynd ati o ddifri i weithredu dros y Gymraeg a’i siaradwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, ond yn gyfle inni ddathlu’r cam pwysig hwn tuag at gydraddoldeb ieithyddol ym Mhrifysgol prifddinas Cymru.”
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i fynychu’r lansiad.