Band Mawr yn mynd i Prag
3 Awst 2018
Mae Band Mawr Prifysgol Caerdydd newydd ddychwelyd o'u taith jazz haf flynyddol Eleni aethant i Ŵyl Jazz Bohemia yn Prag.
Cafodd y band wahoddiad i berfformio mewn tri lleoliad mawreddog, gan gynnwys y Colonnade yn Mariánské Lázně a'r Clwb Jazz Reduta enwog lle mae cerddorion fel Dave Brubeck, Chick Corea, Wynton Marsalis a hyd yn oed Bill Clinton wedi perfformio.
Perfformiodd y grŵp i gynulleidfa lawn yn Reduta, a chael cymeradwyaeth frwdfrydig a cheisiadau am encorau.
Roedd eu cyngherddau'n cynnwys y perfformiad cyntaf rhyngwladol o ddarn newydd, Flypast (2018), gan y darlithydd Dr Dan Bickerton. Cafodd y darn ei gomisiynu gan y band a'i gyfansoddi'n arbennig ar gyfer y daith i Prag.
Yn ystod y daith, aeth y grŵp ar daith gwch a chinio ar yr afon Vlatva, ac ymweld â Phont Charles, Wal Lennon, Amgueddfa Kafka a Chastell Prag.
Dywedodd y trombonydd a Llywydd y Gymdeithas Jazz, Chris Davies: "Roedd Prâg yn ychwanegiad gwych at ein teithiau i Ewrop. Chwaraeodd y band yn ardderchog ac roedd digonedd o ddiwylliant a cherddoriaeth leol i'w mwynhau – yn enwedig yng Ngŵyl Jazz Bohemia!"
Dywedodd Llywydd y Gymdeithas Gerddoriaeth a'r chwaraewr bas Jonathan Brown: "Mae'r daith flynyddol bob amser yn cynnig ffordd unigryw a chyffrous i bob grŵp blwyddyn integreiddio a chymysgu. Roedd yn daith wych gyda digonedd o gyfleoedd i'r band chwarae mewn lleoliadau newydd."
Dywedodd Dr Bickerton, a aeth gyda'r myfyrwyr ar y daith: "Roedd y myfyrwyr yn llysgenhadon gwych ar gyfer Prifysgol Caerdydd, a rhoeon nhw dri pherfformiad rhagorol mewn tri lleoliad cyngerdd arbennig iawn. Roedd hi'n ddinas hyfryd i dreulio wythnos ynddi gyda'n cerddorion talentog!"