Codi ymwybyddiaeth o waith darganfod cyffuriau yn Gymraeg
2 Awst 2018
Aeth gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd ati i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o waith darganfod meddyginiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy fynd i ŵyl Gymraeg flynyddol i rannu eu hymchwil.
Perfformiodd ymchwilwyr o'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn Nhafwyl ym mis Mehefin, gan ennyn diddordeb y cyhoedd yn y prosesau a ddefnyddir i greu meddyginiaethau newydd.
Cafodd yr ŵyl awyr agored, sy'n dathlu iaith, diwylliant, cerddoriaeth a chelf Cymraeg, ei chynnal ym muriau Castell Caerdydd, gan ddenu bron i 40,000 o bobl.
Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd: "Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd osod pabell yn yr ŵyl, a oedd yn ganolfan wybodaeth â gweithgareddau rhyngweithiol, yn seiliedig ar ein hymchwil a'n cyrsiau arloesol.
"Fel Sefydliad, ein nod yw trosi darganfyddiadau sylfaenol mewn prosesau clefyd a nodi targedau moleciwlaidd yn gyffuriau newydd, ac rydym yn awyddus iawn i ennyn diddordeb y cyhoedd yn ein hymchwil.
"Fe wnaeth ein gemau marblis a molymod, a'n gweithgaredd profi cyffuriau ein helpu i ddangos rhai o'r prif ffactorau sydd ynghlwm wrth ddatblygu therapïau newydd.
"Mae allgymorth cymunedol yn rhoi cyfle i ni rannu ein hymchwil â'r cyhoedd a hysbysu pobl am yr ymchwil arloesol sy'n cael ei gwneud yng Nghymru.
"Braint anhygoel oedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o waith darganfod cyffuriau, a gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Edrychwn ymlaen at arddangos mwy o'n gwaith yn yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd ym mis Awst, lle byddaf yn rhoi darlith am Datblygu meddyginiaethau arloesol y dyfodol fel rhan o'r ŵyl.”