Prosiect llywodraethu'r UE gwerth €4.5m yn mynd rhagddo
2 Awst 2018

Mae dau academydd o Ysgol Busnes Caerdydd yn rhan o gonsortiwm rhyngwladol o ymchwilwyr, ledled Ewrop, fydd yn cael €4.5m o gyllid i astudio sut mae Ewrop yn cael ei lywodraethu.

Fel rhan o'r prosiect tair blynedd a hanner bydd yr Athro Martin Kitchener a'r Athro Rachel Ashworth yn cydweithio â naw o bartneriaid, gan gynnwys prifysgolion, bwrdeistrefi, a chwmnïau preifat o chwe gwladwriaeth yn Ewrop; y DU, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Denmarc, Croatia a Slofenia.
Bydd yr arian, a ddyfarnwyd gan raglen ymchwil ac arloesedd Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd, yn cael ei ddefnyddio i archwilio ffyrdd y gall y cyhoedd gymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu gwasanaethau cyhoeddus ledled Ewrop, gan gynnwys defnyddio technolegau digidol.

Meddai’r Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae'n bleser cael bod yn rhan o brosiect uchelgeisiol sydd wedi'i gymeradwyo gan raglen Horizon 2020...”

“Prosiectau fel hyn yw conglfaen ein strategaeth gwerth cyhoeddus. Maent yn cynnig manteision cymdeithasol yn ogystal â rhai economaidd, drwy fynd i'r afael â'r problemau anodd y mae'r gymdeithas gyfoes yn eu hwynebu.”
“Pa ffordd well i archwilio'r egwyddor hon na chwilio am ffyrdd y gall dinasyddion gymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu ein gwasanaethau cyhoeddus?”
Ymchwil bwysig a chyffrous
Bydd y prosiect ymchwil, sydd wedi'i arwain gan Brifysgol Northumbria, yn archwilio arloesedd a chreadigrwydd yn sector diwylliannol a threftadaeth Ewrop, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau celf sydd wedi eu hariannu'n gyhoeddus.
Bydd yn archwilio sut mae'r sefydliadau hyn wedi ymateb i newidiadau cyfoes nid yn unig i oroesi ond, mewn llawer o achosion, i ffynnu, er gwaethaf yr hinsawdd newidiol.

Ychwanegodd yr Athro Rachel Ashworth, Pennaeth adran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae Martin a minnau wrth ein bodd i gael y cyfle hwn i ymuno â chydweithwyr o ledled yr UE i weithio ar brosiect ymchwil mor bwysig a chyffrous.”
Dechreuodd gwaith ar y prosiect, o'r enw ‘Understanding the transformation of European public administrations’, ym mis Mai.