Prifysgol Caerdydd yn ennill gwobr gan Gynhadledd Theori Diwylliant Defnyddwyr
1 Awst 2018
![Woman delivers speech at conference](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0020/1244135/Dr-Rebecca-Scott-collects-award.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Darlithydd Marchnata o Ysgol Busnes Caerdydd wedi ennill gwobr o fri yng Nghynhadledd Theori Diwylliant Defnyddwyr 2018 yn Odense, Denmarc.
Aeth Dr Rebecca Scott i gasglu Gwobr Sidney J. Levy ym Mhrifysgol De Denmarc am ei phapur, o'r enw 'Selling Pain to the Saturated Self', a gyhoeddwyd yn y Journal of Consumer Research ym mis Gorffennaf 2017.
Diben yr ymchwil – ar y cyd â chymheiriaid, sef yr Athro Julien Cayla ym Mhrifysgol Technolegol Nanyang a'r Athro Bernard Cova yn Ysgol Busnes Kedge – yw ceisio deall pam mae pobl yn talu am brofiad sy'n cael ei farchnata'n fwriadol fel bod yn un poenus.
Fe wnaeth y tîm ddarganfod bod poen yn gallu helpu unigolion i ddelio â'r segurdod corfforol o weithio mewn swyddfa. Mae'n gorfodi'r corff i ganolbwyntio'n ddwys ac yn rhoi cyfle i bawb sy'n cymryd rhan ailddarganfod natur eu corff, gan eu bod nhw'n treulio llawer o'u hamser o flaen cyfrifiadur.
![Woman poses with award and two men](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/1244149/Dr-Rebecca-Scott-and-colleagues.jpg?w=575&ar=16:9)
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2648509/609171-1661446372169.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Nid yw dweud fy mod wrth fy modd yn dod yn agos at gyfleu sut rwy’n teimlo. I wneud pethau'n well fyth, cefais bleser diffuant o greu'r papur hwn ar y cyd â phobl wirioneddol wych.”
Caiff cystadleuaeth gwobr Sidney J. Levy ei chynnal yn flynyddol, i anrhydeddu un o sefydlwyr Theori Diwylliant Defnyddwyr.
Caiff y wobr ei rhoi am yr erthygl traethawd hir gorau sy'n ymwneud â Theori Diwylliant Defnyddwyr a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Darllenwch ‘Selling Pain to the Saturated Self’ yma.
Thema cynhadledd 2018 oedd straeon tylwyth teg diwylliant defnyddwyr – priodol iawn ar gyfer y ddinas lle cynhaliwyd y gynhadledd, Odense. Mae enw'r ddinas yn golygu noddfa Odin, ffigur canolog ym mytholeg y Llychlynwyr.
Gellir dod o hyd i'r manylion llawn am raglen y gynhadledd ar wefan Prifysgol De Denmarc.