Canfod atebion arloesol i dlodi tanwydd
1 Awst 2018
Mae tîm ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio i fynd i'r afael â phroblem tlodi tanwydd yng Nghymru.
Mae'r grŵp Deall Risg, sy'n dod â staff o'r Ysgolion Seicoleg a'r Gwyddorau Cymdeithasol ynghyd, yn arwain prosiect a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, Dyfodol Teg, mewn partneriaeth ag Energy Systems Catapult.
Nod y cynllun yw nodi'r ffactorau cyffredin a brofir gan bobl, nawr ac yn y dyfodol, a allai arwain at dlodi tanwydd. Bydd y canfyddiadau o'r ymchwil yn helpu llunwyr polisïau a chyflenwyr ynni i lunio strategaethau er mwyn cynnig cefnogaeth well i deuluoedd sy’n agored i niwed, gan gynnwys defnyddio technolegau newydd lle gallai'r rhain fod yn ddefnyddiol.
Yn y lle cyntaf, mae ymchwilwyr yn canolbwyntio ar gartrefi yng Nghaerau, Pen-y-bont ar Ogwr, yn cyfweld â thrigolion er mwyn cael gwybod rhagor am eu profiadau o reoli costau nwy a thrydan. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddant yn dadansoddi canlyniadau, a chaiff y canfyddiadau eu cyhoeddi ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Dywedodd Dr Christopher Groves o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae tlodi tanwydd yn broblem sy'n wynebu llawer o deuluoedd yng Nghymru ac yn wir, y DU. Bydd ein hymchwil yn rhoi tystiolaeth gadarn i ddangos y rhesymau niferus ac amrywiol ynghylch pam y gallai pobl fod yn cael trafferth talu am adnodd hanfodol. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth i ddangos beth yw gwir ddymuniadau ac anghenion pobl o'r ynni maent yn ei brynu."
Ystyrir bod arloesedd yn offeryn pwysig i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae llawer o bobl yn y DU yn cael anhawster cael gafael ar yr ynni rhataf, fforddio'r dechnoleg fwyaf effeithlon, neu ddeall beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio'r ynni y maent yn eu prynu.
“Rydym yn arbenigo mewn dulliau gwyddorau cymdeithasol a chredwn ei bod yn bwysig cael dealltwriaeth fanwl o brofiadau pobl ac anawsterau bob dydd - megis talu eu biliau, ac ymdopi â newidiadau yn gyffredinol. Wrth gwrs, ni fydd pobl bob amser yn barod i siarad am yr anawsterau y gallen nhw fod yn eu hwynebu. Fodd bynnag, o ystyried maint y broblem, nid yw tlodi tanwydd yn rhywbeth y gallwn ddewis ei anwybyddu", meddai’r Athro Karen Henwood, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Dywedodd Phil New, Prif Weithredwr Energy Systems Catapult sy'n cefnogi'r defnydd o arloesedd wrth ddatblygu atebion ynni clir: "Dylai gallu cael mynediad at wres i gadw'n gynnes, gwresogi bwyd a chadw'n lân fod yn hawl dynol sylfaenol sydd ar gael i bob un ohonom, ac eto mae cyfran sylweddol o gymdeithas yn dal i gael eu hystyried i fod yn 'dlawd o ran tanwydd'.
"Mae digideiddio a datgarboneiddio yn trawsnewid y system ynni, ac nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch sut y gallai arloesedd wella bywydau'r rhai sydd mewn tlodi tanwydd."
Dywedodd Lesley Griffiths AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi buddsoddi dros £240 miliwn mewn rhaglenni tlodi tanwydd ers 2011 ac mae'n bwysig sicrhau bod aelwydydd sy'n agored i niwed yn gallu manteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o'r agenda ynni deallus newydd yn ogystal â gweithgareddau cysylltiedig ehangach megis iechyd a thrafnidiaeth."