Ewch i’r prif gynnwys

A yw Caerdydd yn arweinydd creadigol byd-eang?

31 Gorffennaf 2018

Film camera

Mae Caerdydd yn arweinydd amlwg yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru ond sut mae’n cystadlu â chanolfannau creadigol y DU a pha effaith all gael ar y byd ehangach?

Dyma safbwyntiau arweinwyr y sector yn nadl cyfryngau flynyddol Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod.

Mae'r panel yn cynnwys Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies, Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, Prif Weithredwr y cwmni cynhyrchu annibynnol Boom Cymru, Nia Thomas, a Phrif Weithredwr S4C, Owen Evans. Bethan Rhys Roberts, newyddiadurwr a darlledwr BBC Cymru Wales, fydd yn cadeirio'r drafodaeth.

Bydd y ddadl cyfryngau, sydd bellach yn ddigwyddiad poblogaidd ar raglen yr Eisteddfod, yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 7 Awst 2018 ym mhabell Prifysgol Caerdydd.

Mae sector creadigol Caerdydd wedi tyfu'n sylweddol ac mae hyn wedi'i bweru gan feysydd ffilm, teledu, animeiddio, gemau fideo a gweithgareddau ôl-gynhyrchu.

Mae rhai o raglenni mwyaf poblogaidd y wlad yn cael eu cynhyrchu yma erbyn hyn, tra bod BBC Cymru Wales yn adeiladu pencadlys newydd yng Nghanol y ddinas.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Mae hi’n amser anhygoel ar gyfer y diwydiannau creadigol ar draws Cymru – a does dim dwywaith fod Caerdydd wrth galon y llwyddiant.

"Mae’r rhwydwaith bywiog o ddarlledwyr, cwmnïau cynhyrchu, gweithwyr llawrydd, prifysgolion a chwmnïau cyflenwi wedi gwneud y brif ddinas yn fagned creadigol sydd wedi tyfu’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf a does dim arwydd fod y twf am ddod i ben.

“Mewn ychydig dros flwyddyn, fe fydd timau’r BBC yn dechrau symud i’r Sgwâr Canolog yng nghanol y ddinas – gan greu’r ganolfan ddarlledu fwyaf blaenllaw o ran technoleg yn Ewrop ac yn bwynt canolog i ddiwydiannau creadigol y genedl.

"Dyma hefyd fydd adeilad mwyaf agored a hygyrch y BBC yn y DU – a bydd croeso cynnes i ystod eang o bartneriaid o’r sector greadigol.

"Mae cydweithio wrth galon llwyddiant y ddinas ac mae’n bleser gen i fod yn rhan o’r sesiwn banel ochr yn ochr â rhai o’n partneriaid allweddol gan gynnwys S4C, Cyngor Caerdydd a Boom Cymru.”

Mae Caerdydd hefyd ar y rhestr fer i gael canolfan greadigol newydd ar gyfer Channel 4 yn dilyn cais gan Gyngor Caerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae gan Gaerdydd ddiwydiant annibynnol cryf, a gyda dros 70,000 o fyfyrwyr prifysgol, mae potensial creadigol y ddinas yn enfawr.

"Pan ddaeth Channel 4 i ymweld â'r ddinas ar ôl i ni gael ein rhoi ar y rhestr fer, cawsom gyfle i ddangos sut rydym yn dod ag adeiladau pwrpasol at ei gilydd i gefnogi'r sector creadigol, a phob un ohonynt wedi'i adeiladu o gwmpas canolfan drafnidiaeth ganolog newydd i gysylltu'r sianel â thalentau yma a thu hwnt.

"Mae Caerdydd yn rhan o'r clwstwr mwyaf o gwmnïau cynhyrchu annibynnol y tu allan i Lundain. Mae'n ddinas sy'n profi twf a newid aruthrol, a gellid dadlau – o ganlyniad i'r dylanwad sylweddol y mae Butetown wedi'i gael ar ein gwerthoedd cynhwysol – ei bod yn ganolbwynt pwysig ar gyfer amrywiaeth yn y DU.

"Ochr yn ochr â hynny, mae gennym lywodraeth dinas sy'n awyddus i gefnogi'r sector creadigol a gweithlu talentog sydd ymhlith y ieuengaf a'r mwyaf medrus yn y DU."

Dywedodd trefnydd y ddadl cyfryngau, Manon Edwards Ahir, o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant: "Mae'n sicr yn wir bod dylanwad Caerdydd yn tyfu'n sylweddol ar draws sector creadigol sy'n gynyddol bwysig o safbwynt economaidd a diwylliannol.

"Mae Caerdydd wedi llwyddo i ddatblygu enw da yn y sector gartref, ond a yw'n manteisio i'r eithaf ar farchnadoedd rhyngwladol? Ac a yw gweddill Cymru'n teimlo manteision y twf creadigol hwn?

"Bydd ein panel arbenigol o arweinwyr y sector yng Nghymru'n rhannu eu safbwyntiau am botensial enfawr y diwydiant a sut gall Caerdydd fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael."

Gwahoddir ymwelwyr yr Eisteddfod i ddod draw i glywed barn ein panel a chyflwyno cwestiynau iddynt.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd rhwng 3 ac 11 Awst.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch ragor am beth sy'n digwydd yn yr Eisteddfod.