Cyhoeddi canlyniadau astudiaeth am yr Eisteddfod
30 Gorffennaf 2018
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn cyhoeddi canlyniadau astudiaeth o lefelau bodlonrwydd a phrofiadau ymwelwyr â'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r ymchwil, sy'n seiliedig ar safbwyntiau dros 1,200 o ymwelwyr yn Eisteddfod 2017 ym Môn, hefyd yn archwilio sut teithiodd pobl i'r ŵyl a'u cynlluniau teithio ar gyfer digwyddiad eleni yng Nghaerdydd.
Bydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno gan Dr Andrea Collins, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, a Dr Nicole Koenig-Lewis, o Ysgol Busnes Caerdydd, yn nigwyddiad briffio'r wasg dyddiol yr Eisteddfod ar y Maes am 11:00 ddydd Mawrth 7 Awst.
Mae ymchwil debyg yn cael ei chynnal i werth ac effaith Eisteddfod 2018. Eleni bydd yr astudiaeth hefyd yn archwilio a yw ymwelwyr wedi cael eu hannog i ddefnyddio dull mwy cynaliadwy i deithio i'r Eisteddfod.
Gwahoddir Eisteddfodwyr i bafiliwn Prifysgol Caerdydd – ger adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd – i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil a sut i gymryd rhan yn yr astudiaeth eleni.
Mae'r ymchwil, sy'n brosiect cydweithredol â'r Eisteddfod Genedlaethol, yn cael ei chynnal ar y cyd gan Ysgol Busnes Caerdydd a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol, sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ŵyl mor gynaliadwy â phosibl, yn gweithio gyda phartneriaid i leihau ei heffaith amgylcheddol.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, "Roedd y gwaith a wnaeth Prifysgol Caerdydd y llynedd yn hynod ddefnyddiol, ac mae wedi ein helpu'n aruthrol gyda rhai o'r paratoadau ar gyfer y digwyddiad eleni ac wrth edrych i'r dyfodol.
"Bydd yn ddiddorol iawn gweld sut mae canlyniadau eleni yn cymharu ag ymatebion y llynedd, yn enwedig o ystyried y bydd eisteddfod eleni yn wahanol i’r rhai blaenorol, gan fod adeiladau parhaol a strwythurau dros dro yn cael eu defnyddio mewn amgylchedd trefol yn hytrach nag yn y lleoliad lled-wledig traddodiadol."
Dywedodd Dr Collins: "Elfen allweddol y bydd Eisteddfod Caerdydd yn canolbwyntio arni yw annog ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw a theithio yn y modd mwyaf cynaliadwy posibl."
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd rhwng 3-11 Awst.