Cyfnewid gwaith cymdeithasol gyda Phrifysgol Normal Beijing
30 Gorffennaf 2018
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, cwblhaodd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing (BNU) ysgol haf gyfnewid yn astudio gwaith cymdeithasol a chymdeithaseg.
Treuliodd grŵp o bedwar ar ddeg o fyfyrwyr BNU bythefnos yn astudio gyda darlithwyr gwaith cymdeithasol a chymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ystod eu harhosiad, cafodd y myfyrwyr ddarlithoedd ar waith cymdeithasol rhyngwladol; cymdeithaseg; mudo a mewnfudo a pharatoi ar gyfer ymarfer gan Gyfarwyddwr y Rhaglen Abyd Quinn Aziz a'r Athro Ralph Fevre.
Hefyd aeth y myfyrwyr ar ymweliadau â Llundain a Sain Ffagan a mwynhau darlith gymdeithaseg deithiol drwy Gaerdydd gyda Dr Robin Smith, Uwch-ddarlithydd mewn Cymdeithaseg.
Yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd, ymwelodd y grwp â sefydliadau lleol i drafod eu gwaith gan gynnwys Diverse Cymru, Cyngor y Ffoaduriaid a'r Cynulliad Cenedlaethol.
I orffen yr ysgol haf, cynhyrchodd pob myfyriwr gyflwyniad ar yr hyn roeddent wedi'i ddysgu yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd, ynghyd â fideo ffarwel gan y grŵp.
Dywedodd Zhai Daoyue am ei hymweliad fel myfyriwr: "Fe ges i amser gwych yn astudio ac yn chwarae gydag athrawon a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gwnaeth y gweithwyr cymdeithasol a'r cyrff gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaerdydd i fi deimlo mor optimistaidd am ein cymdeithas sy'n cael ei chefnogi gan y gweithwyr cymdeithasol hyn bob yn ychydig.
"Roeddwn i'n caru'r profiadau a'r teimladau a gefais yng Nghaerdydd. Mae pobl Caerdydd bob amser mor dwymgalon ac yn ein trin ni fel teulu. Mae Caerdydd yn lle gwych i ddysgu a byw."
Y mis hwn, aeth Dr Alyson Rees hefyd gyda thri myfyriwr gwaith cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd ar ymweliad â BNU ar gyfer eu Hysgol Haf Gwaith Cymdeithasol a Chymdeithaseg.
Yn ystod eu pum noson yn Beijing, buont yn mynychu darlithoedd, seminarau a gweithdai, ynghyd â chyfranogwyr o Sbaen, yr Unol Daleithiau a Tsieina, yn astudio systemau cymharol o les cymdeithasol rhwng y gwahanol wledydd.
Aethant hefyd i ymweld â sefydliadau gofal cymdeithasol yn ogystal â'r Wal Fawr, Sgwar Tiananmen a Theml y Nefoedd.
Dywedodd Abyd Quinn Aziz, Cyfarwyddwr y Rhaglen Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd am y cyfnewid: "Rwy'n credu bod gwir werth i'r bartneriaeth hon wrth i ni geisio cynnal golwg fyd-eang ar waith cymdeithasol ochr yn ochr â'n gwaith gyda Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol. Mae'r cyfnewid yn caniatáu i'n myfyrwyr ni ymweld â Tsieina ac edrych ar egin waith cymdeithasol yng nghyd-destun cenedl ddiwydiannol sy'n tyfu'n gyflym a gweld yn ymarferol sut mae polisi cymdeithasol yn effeithio ar bobl hŷn a chymunedau trefol.
"Mae'r myfyrwyr sy'n ymweld â ni'n dweud eu bod yn cael dealltwriaeth o ddamcaniaeth ac ymarfer gwaith cymdeithasol drwy addysgu ac ymweld â lleoliadau gwaith. Ond hefyd ceir 'cyfnewid diwylliannol' gwerthfawr a'r hyn a gofiaf o'r ymweliad diweddar hwn yw Zhou Zepeng yn rhyfeddu at liw'r machlud o ffenest ei ystafell wely yn Neuadd Aberdâr a holl fyfyrwyr y BNU yn rhuthro i'r môr yn Ynys y Bari i badlo - gyda llawer heb weld y môr erioed o'r blaen!"