Ymgynghori ar adeilad newydd
27 Gorffennaf 2018
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymgynghori ar ei chynlluniau i ddatblygu adeilad pwrpasol ar gyfer Cyfrifiadureg a Mathemateg.
Bydd yr adeilad 10,000 metr sgwâr yn dod â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg (COMSC) a'r Ysgol Mathemateg (MATHS) at ei gilydd mewn un cyfleuster sy'n arwain y byd.
Bydd yr adeilad ar Heol Senghennydd yn cefnogi twf y ddwy adran ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gwell cydweithio ac ymchwil.
Mae'r safle ar gampws Cathays, nesaf at Ganolfan Technoleg Busnes Caerdydd, Undeb y Myfyrwyr a gorsaf reilffordd Cathays, ac fe'i defnyddir fel maes parcio i'r Brifysgol ar hyn o bryd.
Fe'i dewiswyd yn dilyn astudiaeth dichonoldeb yn ystod haf 2016 oedd yn ystyried meini prawf fel lleoliad, argaeledd, maint a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r prosiect yn rhan o brosiect mwyaf y Brifysgol i uwchraddio'r campws ers cenhedlaeth, sy'n cynnwys buddsoddiad o £260m yn y profiad addysgu, dysgu a myfyrwyr.
Mae'r prosiectau cyfredol eraill yn cynnwys Canolfan Bywyd y Myfyrwyr - cartref newydd i'r gwasanaethau cefnogi myfyrwyr sy'n cynnwys mannau astudio cymdeithasol, ystafelloedd ymgynghori ac awditoriwm â 500 o seddi.
Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Oherwydd poblogrwydd y pynciau hyn, mae'r ysgolion cyfrifiadureg a mathemateg ill dwy wedi dechrau rhaglen o ehangu niferoedd myfyrwyr fydd yn golygu y byddant yn rhy fawr i'w cartrefi presennol erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2020/21.
Caiff yr adeilad sengl chwe llawr ei gynllunio gan y practis penseiri lleol Stride Treglown ar y cyd â'r stiwdio ddylunio o fri rhyngwladol, Adjaye Associates.
Caiff nodweddion eu cynnwys i leihau effaith weledol a ffisegol y cynllun i'r preswylwyr lleol.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys tirlunio a gwell cysylltiadau i gerddwyr rhwng Adeilad Undeb y Myfyrwyr a Gorsaf Cathays (a'r bont droed).
Bydd hyn yn cynnwys plaza cyfoes wrth ymyl swyddfa docynnau'r orsaf ac i'r gorllewin i'r adeilad (gan gynnwys planhigion), a phafin cyfoes ar hyd blaen yr adeilad ar hyd Heol Senghennydd.
Ychwanegodd yr Athro Allemann: "Yn ogystal â darparu amgylchedd gwaith ac astudio arloesol, bydd mannau ac arferion addysgu arloesol yn ganolog i'r adeilad.
"Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer cynlluniau gradd mwy hyblyg ac yn cefnogi ymglymiad agosach gan ddiwydiant mewn addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.
"Bydd yr adeilad newydd yn arloesi gyda ffordd newydd o weithio yn y Brifysgol sy'n ymgorffori cydweithio a chydweledigaeth gan gadw hunaniaeth benodol y ddwy Ysgol yr un pryd."
Cynhelir ymgynghoriad ar y cynlluniau rhwng 27 Gorffennaf a 24 Awst 2018 ac mae gwybodaeth lawn a'r dogfennau cynllunio drafft i'w gweld yn http://www.cardiffuniversitycsm.info/cy/.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, cyflwynir cais cynllunio i Gyngor Dinas Caerdydd yn ddiweddarach yr haf hwn.