Gwasanaeth newyddion yr Eisteddfod yn ‘cymryd yr awenau’
27 Gorffennaf 2018
Bydd y gwasanaeth newyddion digidol cyffrous sy'n darlledu o'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei arwain gan ddau newyddiadurwr addawol yn yr ŵyl eleni.
Dyma chweched flwyddyn Llais y Maes, ac mae'n rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd o weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant cyfryngau.
Bydd Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC Cymraeg) y Brifysgol yn cydweithio unwaith eto ag ITV Cymru, S4C a'r Eisteddfod Genedlaethol i greu rhaglen aml-lwyfan o'r Maes.
Ond eleni am y tro cyntaf ar gyfer yr Eisteddfod yng Nghaerdydd, bydd y myfyrwyr yn cael eu harwain gan ddau o 'raddedigion' Llais y Maes.
Ar ôl gweithio ar ddarllediadau Llais y Maes y llynedd, cafodd Liam Ketcher ac Aled Russell eu hysbrydoli i greu eu sefydliad eu hunain i ehangu a hyrwyddo'r cyfryngau i fyfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd (Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd - CMCC).
O ganlyniad, bu cynnydd sylweddol yn narpariaeth y Gymraeg ar draws holl gyfryngau myfyrwyr Caerdydd, gan gynnwys Radio Xpress, papur newydd y Gair Rhydd a Clebar (rhan o gylchgrawn Quench).
Oherwydd llwyddiant aruthrol CMCC, maent wedi eu gwahodd yn ôl i arwain Llais y Maes eleni, gyda chymorth ITV Cymru, S4C a JOMEC.
Dywedodd darlithydd Cymraeg JOMEC, Manon Edwards Ahir, sy’n cefnogi Llais y Maes ochr yn ochr â chynhyrchydd ITV Cymru, Iwan Roberts, y bydd CMCC yn "cymryd yr awenau".
"Ers sefydlu CMCC maent wir wedi gweithio yn galed i sicrhau llwyddiant. Felly, credwn y bydd Llais y Maes mewn dwylo diogel eleni gyda Liam ac Aled," meddai Manon.
"Maen nhw eisoes yn newyddiadurwyr ac yn creu cynnwys, felly rwy'n hyderus y byddant yn gallu ymdopi â gofynion gwasanaeth prysur y newyddion gan gadw at y terfynau amser.
"Bydd myfyrwyr llai profiadol sydd megis dechrau ar eu taith fel newyddiadurwyr yn ymuno â nhw. Byddwn ni yma fel darlithwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant i gefnogi'r tîm cyfan."
Dywedodd Iwan: "Mae Llais y Maes yn bartneriaeth wych rhwng ITV Cymru, S4C, Prifysgol Caerdydd a'r Eisteddfod Genedlaethol sydd wedi cefnogi nifer o newyddiadurwyr ifanc.
"Mae wedi rhoi profiad unigryw iddyn nhw yn cynhyrchu cynnwys newyddion aml-gyfrwng o'r Maes gyda chefnogaeth gweithwyr proffesiynol y diwydiant."
"Yr wyf yn ddigon ffodus o fod wedi cael cynnig swydd gydag ITV Cymru mewn partneriaeth ag S4C fel newyddiadurwr dan hyfforddiant, ond ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y profiadau a gefais tra yn y brifysgol.
"Sefydlodd Aled a minnau CMCC dros flwyddyn yn ôl bellach, i roi cynifer o gyfleoedd â phosibl i fyfyrwyr Cymraeg ennill sgiliau newyddiadurol gwerthfawr tra yn y brifysgol. Yn sgîl llwyddiant CMCC, rwy'n edrych ymlaen yn fawr AT gyd-arwain Llais y Maes eleni gydag Aled, a gweithio ochr yn ochr â rhai o wynebau newydd yn ein tîm o newyddiadurwyr."
Bydd tîm Llais y Maes wedi'u lleoli ym mhencadlys ITV Cymru ym Mae Caerdydd, ger y Maes.
Byddant yn cynnig y cynnwys bywiog aml-gyfrwng arferol, ond gyda rhai gwahaniaethau eleni.
Am y tro cyntaf erioed, bydd fersiwn Gymraeg o bapur newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Gair Rhydd, yn cael ei hargraffu a'i dosbarthu ar draws y Maes, ochr yn ochr â darllediadau ar Radio Xpress gan gydlynydd yr iaith Gymraeg, Aled.
Yn dilyn ei brofiad gyda Llais y Maes y llynedd, mae Liam wedi cael lle ar gynllun newydd, hyfforddiant newyddiaduraeth ITV Cymru/S4C sy'n cael ei lansio yn yr Eisteddfod.
Yn ymuno ag ef ar y cynllun fydd un o gyn-ohebwyr eraill Llais y Maes, Elen Davies, graddedig JOMEC BA Cymraeg a Newyddiaduraeth, a enillodd wobr Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2018.
Bydd y cynllun hyfforddi yn cael ei lansio gan y darlledwr nodedig Guto Harri mewn digwyddiad ym mhabell Prifysgol Caerdydd ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mercher 8 Awst.
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd rhwng 3 ac 11 Awst.