Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn dathlu Dosbarth 2018
26 Gorffennaf 2018
Daeth staff, aelodau teulu a ffrindiau Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ynghyd ym mis Gorffennaf i ddathlu llwyddiannau Graddedigion 2018.
Cynhaliwyd seremoni raddio eleni ar 16 Gorffennaf yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a chynhaliwyd derbyniad ar dir Prif Adeilad y Brifysgol.
Daeth tua 900 o bobl i ddigwyddiad graddio'r Ysgol – graddiodd myfyrwyr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn y bore a graddiodd myfyrwyr y Gyfraith yn y prynhawn. Rhwng y seremonïau gwahoddwyd y gwesteion i dderbyniad lle buont yn mwynhau prosecco, canapés a chacennau bach i ddathlu wrth iddynt gymysgu â'r staff a dathlu llwyddiannau myfyrwyr
Croesawodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro René Lindstädt, y gwestai i Gaerdydd a llongyfarch yr holl raddedigion am eu gwaith caled yn ystod eu blynyddoedd yn astudio yn yr Ysgol.
Ar ôl ei araith, aeth yr Athro Lindstädt ymlaen i gyflwyno nifer o wobrau i fyfyrwyr a gafodd cydnabyddiaeth mewn amrywiaeth o feysydd. Roedd y rhain fel a ganlyn:
Gwobrau'r Gyfraith
Gwobr Aka Onwuazor Charles Ng
Sayekaya Tayananiswa
Cecil Fifoot – Contract
Hanna Cornish
Charles Ng
Cecil Fifoot – Camwedd
Isla Cheung
Gwobr Margery Hardwicke ar gyfer Cyfraith Tir
Charles Wilson
Gwobr Ymddiriedolaeth Addysgol Alan a Cyril Body
Robert Anderson
Gwobr Geldards
Rebecca Ware
Gwobr Cyfraith y Wasg Prifysgol Rhydychen
Lauren Pettit
Gwobr Eversheds mewn Ymddiriedolaethau
Sophie Rudd
William Stoneham
Eleanor Thompson
Gwobr Eversheds mewn Cyfraith Cwmnïau
Alexander Shad
Abigail Williams
Gwobr y Gyfraith Sweet and Maxwell
Sophie Rudd
Gwobr Ysgol y Gyfraith Caerdydd
Sophie Rudd
Gwobr Deighton Pierce Glynn
Maryam Alhaidar
Gwobrau gwleidyddiaeth
Perfformiad Gorau mewn BScEcon Gwleidyddiaeth
Louisa Idel
Perfformiad Gorau mewn BScEcon Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
Matthew Congreve
Perfformiad Gorau mewn Gwleidyddiaeth Cydanrhydedd
Harry Mayo
Gwobr Traethawd Hir Gorau
Matthew Congreve
Peter Davies
Gorau ym Mlwyddyn 2 yn Gyffredinol
Marta Fraccaro
Gwobr Barry Jones
Jan Boschen
Gobeithiwn fod yr holl fyfyrwyr a'u gwesteion wedi mwynhau ein dathliadau a dymunwn bob lwc i raddedigion 2018 yn y dyfodol.