Angerdd am y gorffennol yn Eisteddfod 2018
6 Awst 2018
Mae blas lleol i weithgareddau Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 wrth i'r brifddinas gynnal gŵyl ddiwylliannol fwyaf y wlad - a bydd arbenigwyr Archaeoleg a Hanes yn rhannu eu brwdfrydedd am y gorffennol hefyd.
Dyma’r Eisteddfod gyntaf yn y brifddinas ers degawd ac mae’r sgyrsiau a thrafodaethau a gynhelir wedi'u hysbrydoli gan ddiwylliant, hanes, creadigrwydd a bywyd gwyllt Caerdydd.
Mae tri academydd blaenllaw o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ymhlith y llu o arbenigwyr o’r Brifysgol: Yr Athro Emeritws Bill Jones, Dr Marion Loeffler a Dr Jacqui Mulville.
Mae'r darlithydd Hanes Cymru, Dr Marion Loeffler, yn rhoi dwy sgwrs am Yr Ustus Hardinge, Y Chwyldro Ffrengig a Merthyron Y Waun Ddyfal, Caerdydd 1801 (6 Awst, 10:30) a Drych y Genedl: La Marseillaise yng Nghymru 1848, 1871 a 1914 (7 Awst, 15:00).
Mae gan Dr Loeffler, sy'n Gymrawd yr Academi Hanesyddol Frenhinol, ddiddordeb mewn sut mae bywydau a gwleidyddiaeth unigolion yn rhyngweithio, ynghyd â rôl iaith a chyfieithu i drosglwyddo gwybodaeth a chysyniadau, yn enwedig rhwng 1789 a chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae'r Athro Emeritws mewn Hanes Cymru, Bill Jones, yn cyflwyno pedair sgwrs gan gynnwys darlithoedd blynyddol mawreddog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Canolfan Uwchefrydiau Cymry America a Chymru Ryngwladol. Themâu ei sgyrsiau fydd Allfudo a’r Cymry dramor rhwng y Rhyfeloedd Byd (7 Awst, 11:00, Pafiliwn Llenyddol), Morganiaid yn Y Wladfa, America - a’r Aes (7 Awst, 15:00), Cymry Gwlad yr Aur: Ymfudwyr Cymreig yn ail hanner y 19eg ganrif yn Victoria, Awstralia (9 Awst, 13:15) a "cywilydd" Hattie Williams. Gweithfeydd tunplatiau Cymreig yn America yn ystod y 1890au (10 Awst, 15:00).
Mae gan yr Athro Jones, sy'n aml yn rhannu ei arbenigedd gyda gwneuthurwyr rhaglenni a darlledwyr gartref a thramor, ddiddordeb arbennig mewn ymfudwyr o Gymru a chymunedau Cymreig y tu allan i Gymru (19eg a dechrau'r 20fed ganrif), Cymru a'r Ymerodraeth Brydeinig a hanes Diwydiannol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru fodern.
Dr Jacqui Mulville, Pennaeth Archaeoleg a Chadwraeth yw gwestai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a bydd hi'n rhannu ei gwaith ymgysylltu hynod boblogaidd Dod â'r gorffennol yn fyw: O anifeiliaid y dyfodol i Archaeoleg Guerrilla ar 8 Awst (16:30).
Drwy gyfuno ei gwybodaeth arbenigol ym maes gwyddoniaeth archeolegol â'i chariad at fyd y celfyddydau, mae Dr Mulville yn rhannu ei hangerdd am y gorffennol yn rheolaidd gyda miloedd o bobl bob blwyddyn drwy Archaeoleg Guerrilla, y grŵp o Gaerdydd a sefydlwyd yn 2011. Cafodd ei gweithdai arloesol eu nodi ymhlith y 'Pum Peth i'w Wneud yng Ngŵyl Glastonbury' yn yr wŷl fyd-enwog yn 2017.
Mae'r Brifysgol yn cynnal rhaglen eang yn Eisteddfod 2018 (3-11 Awst, Bae Caerdydd). I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch #CUEisteddfod2018.