C4CJ yn cael arian gan Google ar gyfer y sector hyperleol
25 Gorffennaf 2018
Mae'n bleser gan Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol (C4CJ) Prifysgol Caerdydd gyhoeddi ei bod wedi cael €250,000 (tua £223,000) o Gronfa Arloesedd Newyddion Digidol Google er mwyn creu ffrydiau cyllid newydd ar gyfer sector newyddion cymunedol a hyperleol.
Bydd y Prosiect, Gwerth fy Newyddion (VMN – Value My News) yn datblygu cyfres arloesol o offer i alluogi cyhoeddwyr newyddion cymunedol a hyperleol i wneud arian o straeon hyperleol, ac olrhain eu gwerthiant, tra'n gosod hawlfraint ar gynnwys presennol ar yr un pryd.
Mae hwn yn ymateb arloesol i bryderon ynghylch cynaliadwyedd yn y sector, a bydd y dulliau ariannu newydd a gynigir yn rhoi hwb sydd ei angen yn fawr ar gyhoeddwyr bychain annibynnol ar draws y DU.
Ar y cyd â Stiwdio Arloesedd y Cyfryngau (MIS – Media Innovation Studio) ym Mhrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, bydd VMN yn galluogi cyhoeddwyr i gyrchu, cyhoeddi ac ailgyhoeddi cynnwys golygyddol o ansawdd uchel yn rhwydd, oddi wrth sefydliadau newyddion cymunedol a hyperleol ar draws y DU.
Mae gan newyddion a gynhyrchir ar lawr gwlad, werth yn uwch i fyny ar y gadwyn fwyd newyddion. Drwy ddod â’r straeon gorau a phwysicaf i'r wyneb, bydd VMN yn gwneud yn siŵr bod cynhyrchwyr cynnwys yn cael rhan deg o'r incwm a ddaw yn sgîl eu gwaith.
Bydd VMN yn trawsnewid y sector drwy sicrhau incwm sydd fel arall yn gollwng drwy'r gadwyn gyflenwi.
Bydd yn adeiladu cynaliadwyedd drwy greu ffrydiau incwm a manteisio’n llawn ar sgiliau ac arbenigedd y gronfa dalentog ac ymroddgar o newyddiadurwyr sy'n gweithio yn y sector.
Daw'r cyhoeddiad am yr arian lai na blwyddyn ar ôl i C4CJ lansio'r Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN – Independent Community News Network) – y corff cynrychioliadol cyntaf o'i fath sydd wedi ymrwymo i gefnogi buddiannau cyhoeddwyr newyddion cymunedol a hyperleol yn y DU.
Yn ôl Cyfarwyddwr ICNN ac arweinydd y prosiect, Emma Meese: "Bu creu llwyfan sy'n helpu cyhoeddwyr newyddion cymunedol a hyperleol i ennill mwy o arian o'r gwaith y maent eisoes wedi'i gynhyrchu, yn freuddwyd gennym ers tro.
"Ein nod yw creu rhagor o swyddi ar gyfer newyddiadurwyr ar lefel leol a gwneud yn siŵr bod safon newyddiaduraeth ar lawr gwlad yn y DU mor uchel â phosibl.
"Pleser o’r mwyaf yw cael arwain y prosiect hwn a allai newid dyfodol newyddion lleol.
Yn ôl y Prif Ymchwilydd ar gyfer Gwerth fy Newyddion yn MIS, Clare Cook: "Teimlaf fy mod wedi fy ysbrydoli a fy nghyffroi i’r un graddau o gael gweithio ar brosiect arloesol yn ogystal ag un sy'n creu effaith. Mae hyn yn ymwneud â chael gwell dealltwriaeth o brofiadau go iawn y rheini sy'n cynhyrchu newyddion hyperleol, a chreu newid gwirioneddol yn eu modelau incwm."
Bydd y gwaith ar y prosiect yn dechrau ar unwaith.
Yn 2015, lansiodd Google gronfa DNI, ymrwymiad gwerth €150 miliwn i gyhoeddwyr o bob maint yn Ewrop. Ei nod yw cefnogi newyddiaduraeth o safon uchel drwy gyfrwng technoleg ac arloesedd. Hyd yn hyn, mae'r Gronfa wedi cyrraedd €115m ar gyfer arloesedd yn y newyddion.