A few familiar faces at Open Day!
25 Gorffennaf 2018
Hanner can mlynedd yn ôl, roedd y garfan gyntaf o fyfyrwyr o Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn graddio ac yn symud ymlaen i fod yn Ddeintyddion ac yn Dechnegwyr Deintyddol cymwys.
Graddiodd 26 o fyfyrwyr o Gaerdydd yn ei seremoni raddio gyntaf yn 1968. Fe wnaeth un o'r 26 yma, Alan Harrison, drefnu cinio aduniad 50 mlynedd a oedd yn cynnwys ailymweld â'r Ysgol Deintyddiaeth, taith o amgylch y cyfleusterau a chyfle i gwrdd â rhai o'r myfyrwyr presennol!
"Rwy'n credu mai'r atgof mwyaf cofiadwy oedd y rhyngweithio rhwng y staff a'r myfyrwyr a chyfeillgarwch cyffredinol yr holl le. Roedd pawb yn ein hadnabod yn ôl ein henwau, a chan mai dim ond 22 o fyfyrwyr deintyddol oedd yn yr adeilad cyfan, fel yn ein blwyddyn glinigol gyntaf, nid oedd unman i guddio. Nid oedd modd osgoi cymryd rhan ym mhopeth. Cawsom hefyd nifer o achlysuron chwaraeon staff/myfyrwyr – y gemau Bowlio ym Mharc y Rhath rwy'n ei gofio'n bennaf."
Yn y 1960au, nid oedd iechyd deintyddol poblogaeth de Cymru yn wych. Fel myfyrwyr roedd gennym gronfa enfawr o achosion i'w drin. Roedd angen tynnu dannedd llu o gleifion a rhoi dannedd gosod iddynt. Er enghraifft, fe dynnais dros 330 o ddannedd yn defnyddio anesthesia lleol, a 440 o dan anesthesia cyffredinol"
Arweiniwyd y daith drwy'r ysgol a'r ysbyty gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Alastair Sloan. Agorwyd y Ganolfan Efelychu Sgiliau Clinigol ar ei newydd wedd yn 2016, ac roedd o ddiddordeb arbennig i gynfyfyrwyr. Roedd yr ymweliad yn cydredeg â Diwrnod Agored Prifysgol Caerdydd, gan alluogi'r cynfyfyrwyr i gwrdd â myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr. Yn ystod eu hymweliad, sgwrsiodd y grŵp â'r myfyrwyr presennol gan gymharu nodiadau ynglŷn â'r newid mewn addysg ddeintyddol.
Ychwanegodd yr Athro Alastair Sloan; "Roedd yn anrhydedd croesawu cyn aelodau o garfan graddio gyntaf yr Ysgol, ac nid oedd llawer ohonynt wedi bod yn ôl yn yr ysgol ers iddynt raddio. Roedd graddedigion cyntaf ein Hysgol yn arloeswyr Deintyddiaeth yng Nghaerdydd, ac roedd hi'n braf eu gweld yn rhannu rhywfaint o ddoethineb gyda'n myfyrwyr presennol."
Yr wythnos ddiwethaf, bydd 150 o fyfyrwyr yn graddio o raglenni Israddedig ac Ôl-raddedig yr Ysgol, a bydd 100% o fyfyrwyr Llawfeddygaeth Deintyddol yr Ysgol (BDS) yn cael lle ar Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol.