Arddangos cymuned lewyrchus Sbaeneg ar ymweliad llysgenhadol
23 Gorffennaf 2018
Ym mis Mehefin eleni, croesawyd Llysgennad Sbaen ar gyfer y DU i’r Ysgol Ieithoedd Modern i ddysgu mwy am y cyfleusterau sydd ar gael i ddysgwyr yr iaith Sbaeneg.
Daeth Carlos Bastarreche i ymweld â’r Ysgol ar 27 Mehefin ac fe gafodd y cyfle i gwrdd â staff o’r adran Sbaeneg a ddangosodd y cyfleusterau addysgu o fewn yr Ysgol iddo.
Roedd gan Mr Bastarreche ddiddordeb mawr mewn clywed am swyddfa loeren Swyddfa Addysg Sbaen (SEEO) sydd yn yr Ysgol. Nod y bartneriaeth gyda’r SEEO yw cefnogi myfyrwyr sydd yn dysgu Sbaeneg ac i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau’r iaith Sbaeneg. Y bartneriaeth hon yw’r gyntaf o’i math rhwng y swyddfa a darparwyr Addysg Uwch yng Nghymru ac mae’n caniatáu i’r SEEO weithio’n agos gyda’n hacademyddion i gefnogi ymchwil a digwyddiadau ymgysylltu.
Dywedodd Andrew Dowling, Cyfarwyddwr y Rhaglen Astudiaethau Sbaenaidd, wrth sôn am yr ymweliad, “Roedd yn wych gallu croesawu Mr Bastarreche i’r Ysgol i weld ein cyfleusterau a chlywed gan ein staff yn uniongyrchol. Mae Sbaeneg yn parhau i fod yn iaith boblogaidd iawn o fewn yr Ysgol ac mae ymweliadau fel hyn ochr yn ochr â’n swyddfa loeren ar gyfer Llysgenhadaeth Sbaen yn dyst i’r gwaith gwych sy’n digwydd yma yn yr adran Sbaeneg.”
Mae Llysgenhadaeth Sbaen wedi cytuno i gefnogi digwyddiad blynyddol yn yr Ysgol, naill ai darlith gyhoeddus neu gynhadledd, o’r enw Catherine o Aragon/Tywysoges Cymru. Cynhelir y digwyddiad cyntaf yng Ngwanwyn 2019.
Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnig Sbaeneg ar lefel israddedig fel rhaglen radd anrhydedd sengl neu raglen gydanrhydedd gydag amrediad o ieithoedd eraill neu bynciau gwahanol.