Myfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn ennill gwobr genedlaethol am draethawd
20 Gorffennaf 2018
Mae Rachel Hopkins, myfyriwr MA blwyddyn gyntaf mewn Gwaith Cymdeithasol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi ennill gwobr genedlaethol am draethawd gan Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol.
Dewiswyd Rachel fel un o bedwar enillydd Cystadleuaeth Aseiniad Traethawd Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol. Roedd y gystadleuaeth yn gwahodd myfyrwyr gwaith cymdeithasol i gyflwyno traethawd ar ‘How social workers can solve austerity’, gyda'r pedwar buddugol yn ennill £500.
Wrth siarad am ei gwobr a'i hangerdd dros waith cymdeithasol, dywedodd Rachel, "Eisoes yn fy ymarfer fel myfyriwr gwaith cymdeithasol, rwyf i wedi gweld llawer iawn o bobl fregus yn dioddef caledi yn bennaf ganlyniad i bolisïau llymder. Rwyf i'n credu bod gan weithwyr cymdeithasol ddyletswydd i godi llais yn erbyn anghydraddoldeb, ac roeddwn yn falch i gael cyfle i wneud hyn drwy'r gystadleuaeth aseiniad.
"Rwyf i wrth fy modd i fod ymhlith yr enillwyr, ac yn awyddus i barhau i herio llymder drwy gydol fy ymarfer yn y dyfodol."
Yn ei thraethawd, ysgrifennodd Rachel "Ni all gweithwyr cymdeithasol fod yn oddefol mewn cyfnodau o lymder. Rhaid i ni ddefnyddio ein pwerau'n gyfrifol ac yn sensitif i ymdrin â'r llinell rhwng mynd i'r afael ag annhegwch strwythurol, a grymuso asiantaeth bersonol y defnyddwyr gwasanaeth rydym ni'n gweithio gyda nhw."
Dywedodd Abyd Quinn Aziz, Cyfarwydd y Rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol am lwyddiant Rachel, "Llongyfarchiadau, ac rwy'n falch iawn ar ran Rachel. Roeddwn i'n arbennig o hoff o farn Rachel fod rhaid i waith cymdeithasol roi llais i bryderon am effeithiau niweidiol llymder, defnyddio ymarfer yn greadigol i liniaru ei effeithiau cymaint ag y gallwn a chofleidio gwaith cymdeithasol radical ac ymgyrchu yn erbyn llymder."
Dywedodd John McGowan, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol, "Rwyf i wrth fy modd yn gweld y diddordeb yn yr aseiniad hwn ac mae pwnc 'Llymder' i'w weld wedi sbarduno myfyrwyr gwaith cymdeithasol i gyflwyno nifer fawr iawn o geisiadau."
Dywedodd Guy Shennan, cyn gadeirydd Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, ac un o feirniaid y gystadleuaeth, "Roedd ansawdd y ceisiadau yn y gystadleuaeth yn gyson uchel gyda rhai'n rhagorol.
"Roedd hyn yn tystio i safon y myfyrwyr sy'n mynd i'r proffesiwn a pha mor bwysig i'n darpar weithwyr cymdeithasol yw'r frwydr yn erbyn llymder. Roedd marcio'r traethodau hyn yn bleser pur."
Gellir darllen traethawd Rachel ‘How social workers can solve austerity’ ar-lein yma.