Camu'n ôl i'r dyfodol
20 Gorffennaf 2018
Mae myfyriwr BSc Rheoli Busnes wedi dilyn yn ôl troed ei thad mewn seremoni raddio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Yasmine Samy newydd gwblhau blwyddyn olaf ei chwrs gradd, 21 mlynedd ar ôl diwrnod mawr ei thad, ac mae'n bwriadu ail-greu rhai o atgofion ei thad o gwmpas campws y ddinas.
Graddiodd yr Athro Khaled Samy - tad Yasmine – ym 1997 ar ôl astudio am radd PhD yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Roedd ei wersi, fel rhai Yasmine, yn cael eu cynnal yn Adeilad Aberconwy'r Brifysgol, sydd bellach yn gartref i Ysgol Busnes Caerdydd.
Ychwanegodd yr Athro Samy: “Roedd gwylio Yasmnie yn graddio yn gwrireddu breuddwyd. Mae Caerdydd yn un o'r prifysgolion gorau yn y byd ac wedi llunio fy ngyrfa, felly rwy'n ffyddiog bod Yasmine yn meddu ar y wybodaeth fydd yn fodd iddi ddechrau ar yrfa lwyddiannus.
“Ni allwn fod yn fwy balch!”
Hanes teuluol a thraddodiad
Yn ôl Dr Jane Lynch, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Y seremonïau graddio yw un o fy hoff achlysuron yn y calendr academaidd. Mae'n adeg arbennig i fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni eu hamcanion, ac ar gyfer eu ffrindiau a'u teuluoedd sydd wedi eu cefnogi drwy gydol eu hastudiaethau...”
“Rwy’n dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol!”
Mae gan Yasmine hanes o ragoriaeth a chafodd Wobr Cronfa Colonel Page ar gyfer y Myfyriwr Gorau yn ail flwyddyn o'i chwrs gradd Rheoli Busnes yn nigwyddiad gwobrwyo myfyrwyr israddedig yr Ysgol yn 2017.
Fy ail gartref
Wrth edrych ymlaen i'w chamau nesaf, ychwanegodd Yasmine: “Byddaf yn ddiolchgar hyd byth am yr amser a dreuliais ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd Caerdydd bob amser yn ail gartref i mi.
“O ran y dyfodol, rwy'n bwriadu ymuno â chwmni amlwladol i ennill profiad a, gyda lwc, dychwelyd i astudio MBA Caerdydd.”
Eleni, graddiodd 1,006 o fyfyrwyr yr Ysgol Busnes gyda graddau israddedig, ôl-raddedig a doethuriaeth o Brifysgol Caerdydd.
Gyda phynciau mor amrywiol â marchnata, cysylltiadau cyflogaeth a datblygu economaidd, dewch i wybod os all Ysgol Busnes Caerdydd gynnig cwrs i chi.