Ymchwil yn canfod fod pobl ifanc sy'n aml yn dadlau â'u rhieni yn well dinasyddion
20 Gorffennaf 2018
![Mother arguing with son](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/1232975/Mother-arguing-with-son.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae astudiaeth wedi dangos fod plant yn eu harddegau sy'n gwrthdaro'n rheolaidd â'u rhieni yn fwy tebygol o fod wedi rhoi eu hamser i elusen neu achos dyngarol.
Roedd yr arolwg o bobl ifanc 13 a 14 oed a gynhaliwyd gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dangos fod y rhai a oedd yn dadlau "llawer" gyda'u rhieni, o gymharu â'r rhai nad oedd "byth" yn dadlau, hefyd yn fwy tebygol o fod wedi bod yn gysylltiedig â sefydliad hawliau dynol yn y 12 mis diwethaf, ac i fod wedi cysylltu â gwleidydd neu lofnodi deiseb.
Dywedodd yr Athro Sally Power, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a arweiniodd yr astudiaeth: "Yn draddodiadol, mae dadleuon rhwng plant yn eu harddegau a rheini wedi cael ei ystyried yn annerbyniol ac yn rhan anodd a llawn straen o dyfu i fyny.
"Ond mewn gwirionedd, mae ein hymchwil yn awgrymu y gall ddadleuon fod yn ffordd y mae pobl ifanc yn caffael sgiliau dadlau sy'n eu galluogi i fod â lefelau uwch o ymgysylltu sifig."
Mae'r ymchwil hefyd yn dangos:
- Mae merched bron ddwywaith yn fwy tebygol o ddadlau gyda'u mam a'u tad ynghylch eu dillad;
- Mae merched yn fwy tebygol o ddadlau gyda'u mam ynghylch gwaith tŷ;
- Mae bechgyn ddwywaith mor debygol o ddadlau â'u mamau (ond nid eu tadau) am wleidyddiaeth;
- Mae bechgyn hefyd yn fwy tebygol o ddadlau gyda'u mamau ynghylch gwaith cartref.
Wrth ganolbwyntio ar ethnigrwydd yr ymatebwyr, datgelodd yr ymchwil fod pobl ifanc gwyn yn eu harddegau yn fwy tebygol na phobl o gefndiroedd Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) o ddadlau am waith tŷ ac arian. Dangosodd y dadansoddiad hefyd fod ymatebwyr BAME saith gwaith yn fwy tebygol o ddadlau ynghylch crefydd.
Yn ôl yr arolwg, roedd mamau yn fwy tebygol o ddadlau â'u plant na thadau. Dywedodd bron i 83% o bobl yn eu harddegau eu bod erioed wedi dadlau gyda neiniau a theidiau.
Dywedodd yr Athro Power: "Mae ein hymchwil yn dangos rhai gwahaniaethau diddorol rhwng dynion/bechgyn a menywod/merched, yn ogystal â'r gwahaniaeth rhwng teuluoedd gwyn a theuluoedd BAME. Mae angen inni ymchwilio'n ddyfnach pam mae hyn yn digwydd, a pha effeithiau a gaiff hyn wrth i blant dyfu."
Mae'r ymchwil o ganolfan ymchwil prosiect Cymdeithas Sifil ESRC 'Trosglwyddo ‘rhinweddau sifig’ rhwng y cenedlaethau: rôl y teulu mewn ymgysylltiad cymdeithas sifil'. Mae'r canfyddiadau yn deillio o arolwg o 976 o bobl ifanc rhwng 13 ac 14 oed yng Nghymru a gynhaliwyd rhwng Hydref 2016 - Mawrth 2017.