Cyfle euraidd
19 Gorffennaf 2018
Mae gan wasanaethau Cyfnewid a Chyflogadwyedd, Lleoliadau a Gyrfaoedd Ysgol Busnes Caerdydd gartref newydd yn dilyn buddsoddiad o £180,000 mewn cyfleusterau newydd ar lawr gwaelod Adeilad Aberconwy.
Cafodd y Parth Cyfleoedd, sydd wedi'i ariannu ar y cyd gan Ysgol Busnes Caerdydd a Choleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn y Brifysgol, ei lansio ddydd Iau 5 Gorffennaf 2018.
Mae'r cyfleuster dysgu ac addysgu newydd yn rhan o'r broses o weddnewid llawr gwaelod Adeilad Aberconwy yn stryd fawr y myfyrwyr, ar ôl ail-lansio Canolfan Israddedigion a Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr ym mis Hydref 2017.
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, cafwyd cyfres o siaradwyr yn y digwyddiad a amlygodd fanteision y gwasanaethau a gynigir yn y Parth Cyfleoedd.
Amlygodd Lea Bergs, sydd wedi ymrestru ar MBA Caerdydd ar hyn o bryd, fuddiannau astudio dramor drwy rannu ei phrofiadau o dreulio blwyddyn yn Japan
Fe wnaeth Fionn Lehane, myfyriwr BSc Rheoli Busnes sydd wrthi'n cwblhau blwyddyn o leoliad gwaith gyda Smurfit Kappa, rannu ei phrofiadau o weithio gyda chwmni deunydd pecynnu papur sydd ar flaen y gad.
Trafododd Owain Jones – sy'n Bartner Cyllid yn Barclays – fanteision lleoliadau gwaith i fyfyrwyr a busnesau fel ei gilydd.
Ac fe wnaeth Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr IoD Wales sydd bellach yn gweithio yn Ysgol Busnes Caerdydd, ganmol y broses ddysgu dwy ffordd y mae cyfleoedd cyfnewid a lleoliad yn eu cynnig i fyfyrwyr a busnesau cyn torri'r rhuban ochr yn ochr â'r Athro Kitchener.
Yn ôl yr Athro Kitchener: “Mae'n bleser gennyf agor y cyfleuster gwych hwn heddiw gan wybod y bydd o fudd i gynifer o'n myfyrwyr...”
“Mae'r cyfleoedd hyn hefyd yn rhoi ymdeimlad moesegol a chydymdeimladol i fyfyrwyr ynghylch rhai o heriau cymdeithasol ac economaidd ein hoes, drwy roi gwaith iddynt tra'u bod yn dysgu, a'r cyfle iddynt brofi gwahanol ddiwylliannau.”
Cafodd y syniad ar gyfer y cyfleuster ei ddatblygu yn y lle cyntaf gan Dr Sue Bartlett, a welodd gyfle i ad-drefnu lle yn Adeilad Aberconwy ar ôl agor y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion gwerth £13.5 miliwn yn 2014.
Gweithgor o gymheiriaid o'r Ysgol a Thimau Ystâd y Brifysgol oedd yn gyfrifol am y cynlluniau, cyn i'r broses ddylunio a rheoli prosiect gan WSP Global a BECT Building Contractors gwblhau'r cyfleuster.
I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau Cyfnewid a Chyflogadwyedd, Lleoliadau a Gyrfaoedd, ewch i wefan yr Ysgol.