Codi'r bar
18 Gorffennaf 2018
Bydd myfyriwr nyrsio oedolion llwyddiannus a lwyddodd i gydbwyso sesiynau hyfforddi ar frig y wawr â lleoliadau gwaith yn rhai o wardiau mwyaf heriol y GIG, yn graddio yr wythnos hon (dydd Iau 19 Gorffennaf, 2018).
Mae seremoni raddio Rhiannon Dobbs yn nodi diwedd ei chwrs gradd tair blynedd mewn nyrsio oedolion. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’r athletwr o Oakdale yn cyfuno teithiau rheolaidd i Gaerdydd a’i champfa ym Mhont-y-pŵl.
“Bu’n rhaid wynebu sawl her wrth hyfforddi tra’n astudio, roeddwn i’n hyfforddi am 4.30am ar ddiwrnodau pan oedd gen i shifftiau deuddeg awr. Roedd hynny’n anodd iawn,” meddai Rhiannon, a ddechreuodd godi pwysau’n gystadleuol ym mis Awst 2017 yn dilyn 18 mis o hyfforddiant CrossFit.
“Dwi wastad wedi bod eisiau astudio nyrsio a mynd i Brifysgol a fyddai’n cynnig cyfle i mi fod y nyrs gorau posibl o fewn fy ngallu. Yn rhan o fy hyfforddiant, fe wnes i leoliadau gwaith yn uned asesu llawfeddygol Ysbyty’r Mynydd Bychan gan fy mod i’n mwynhau gofalu am gleifion sy’n ddifrifol wael.
“Fe wnes i hefyd fwynhau fy lleoliad gwaith mewn hosbis a fy lleoliad rheoli yn Nevill Hall ar ward ymsefydlu wedi strôc gan fod y gefnogaeth yno yn wych i nyrsys sy’n fyfyrwyr.”
Yn ôl pob golwg, mae amserlen astudio a ffitrwydd cystadleuol Rhiannon wedi talu ar ei chanfed.
Yn ystod ei hastudiaethau, enillodd Rhiannon fedal efydd dair gwaith ym mhencampwriaethau codi pwysau Agored Cymru, Oedolion Cymru a Chystadleuaeth Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), a chael swydd nyrsio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n dechrau ym mis Medi.
Ac wrth i Rhiannon godi’i het, mae hi’n mynnu na fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ei thiwtor prifysgol a’i hyfforddwyr codi pwysau ymroddedig.
Dywedodd Rhiannon: “Roedd fy nhiwtor personol yn y Brifysgol yn gefnogol iawn ond ni allwn fod wedi llwyddo heb fy nghlwb codi pwysau. Cefais gefnogaeth enfawr ganddynt yno ac fe fyddai fy hyfforddwr hyd yn oed yn agor y gampfa yn gynt na’r arfer er mwyn i mi allu hyfforddi cyn fy shifftiau.”
Heb fodloni ar gael ei swydd nyrsio, mae Rhiannon wedi gosod ei golygon ar ei her codi pwysau nesaf - cystadlu ym mhencampwriaeth codi pwysau Prydain o dan 23 a’i hail ymddangosiad yng nghystadleuaeth codi pwysau Agored Cymru yn hwyrach eleni.
Ychwanegodd Rhiannon: “Rwy’n teimlo y bydd gweithio fel nyrs amser llawn a hyfforddi i godi pwysau’n gystadleuol yn anodd, ond dwi’n mwynhau’r her ac ni fydd fy angerdd dros godi bwysau yn darfod.”
Mae ei hyfforddwr, Justin Holly, o gampfa Willpower Weightlifting ym Mhont-y-pŵl, yn gyflym i ategu ei ganmoliaeth.
Dywedodd Justin: “Rhiannon yw un o’r athletwyr mwyaf penderfynol a gweithgar dwi wedi’i hyfforddi. Mae ei hawydd i gystadlu a gwthio’i hun i lwyddo yn rhinwedd dwi’n ei hedmygu.
“Nid yw am i unrhyw beth ei rhwystro rhag cyrraedd ei nod. Sesiynau hyfforddi am 5am cyn shifftiau 12 awr. Sesiynau hyfforddi am 8am ar ôl gweithio drwy’r nos. Dyma’r person dwi’n ei hadnabod ac yn ei pharchu.”