Rhagoriaeth addysgu
17 Gorffennaf 2018
Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith y prifysgolion gorau am ragoriaeth addysgu yn Ewrop yn ôl rhestr newydd Europe Teaching Rankings THE 2018.
Mae Prifysgol Caerdydd yn 32ain safle ar y rhestr, sy'n canolbwyntio ar amgylcheddau addysgu a dysgu sefydliadau i fyfyrwyr.
Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Rydym yn croesawu rhestr gyntaf Europe Teaching Rankings THE. Maent yn darparu safbwynt pwysig ar farn myfyrwyr ar draws prifysgolion Ewrop.
"Rydym yn falch o weld ymroddiad ein staff i brofiad y myfyrwyr yn cael ei gydnabod.
"Fel Prifysgol, rydym yn ymrwymedig i roi profiad rhagorol a chyson i’n myfyriwr, yn seiliedig ar ddysgu ac addysgu ardderchog.
"Mae ein myfyrwyr yn elwa o fod mewn amgylchedd addysgol cyfoethog sy'n llawn ymchwil. Rydym yn parhau i adeiladu ar ein buddsoddiadau mewn dysgu, addysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr, a’r rhain yw’r prif sylfeini mewn cynnig addysgol rhagorol i bawb."
Mae dros 240 o brifysgolion ar draws wyth gwlad yn cael eu cynnwys yn Europe Teaching Rankings THE 2018, ac fe holwyd dros 30,000 o fyfyrwyr prifysgol.
Roedd y cwestiynau allweddol yn cynnwys: a yw addysgu yn cefnogi meddwl beirniadol; a yw dosbarthiadau yn herio myfyrwyr, ac a yw'r myfyrwyr yn cael y cyfle i ryngweithio â staff.
Mae wyth gwlad o dan sylw ar y rhestr newydd: DU, Sbaen, yr Almaen, yr Eidal, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Portiwgal a Gweriniaeth Iwerddon.
Mae’r rhestr lawn i'w gweld yn: www.timeshighereducation.com/rankings/europe-teaching/2018.