Rhagoriaeth academaidd i fam a gydbwysodd ei hastudiaethau gyda magu teulu ifanc
18 Gorffennaf 2018
Mae gan Alysha Sammut a’i theulu lawer i’w ddathlu.
Ar ôl dychwelyd i addysg ar ôl saib o 10 mlynedd, mae’r fenyw 33 oed bellach wedi cyflawni gradd dosbarth cyntaf yn y Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd.
Dywedodd y fam i ddau fod eu breuddwydion wedi’u gwireddu. “Fyddai hyn heb fod yn bosib heb gefnogaeth fy nheulu,” meddai. “Rhedodd fy mab i mewn i’r ysgol i ddweud wrth ei ffrindiau a’i athrawon fy mod i wedi pasio.”
Gadawodd Alysha yr ysgol yn 17 oed ac aeth yn syth i weithio fel gwas sifil. Dywedodd: “Ro’n i eisiau dechrau ennill arian ac ro’n i’n mwynhau fy ngwaith. Ond roedd wastad teimlad gen i nad oeddwn i wedi cyrraedd fy mhotensial llawn.”
Ar ôl derbyn pecyn dileu swydd, cymerodd saib o’r gweithle i fagu ei theulu - mae Joseph nawr yn wyth a Tallulah yn chwech.
“Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe geisiais ddechrau yn y coleg deirgwaith ond am ba reswm bynnag, ni weithiodd pethau. Ro’n i’n teimlo na fyddai hyn yn digwydd i mi, fy mod i wedi colli fy nghyfle,” meddai.
Yna, dechreuodd Alysha sy'n byw gyda’i gŵr Matthew a'u plant yng Ngabalfa, Caerdydd weithio'n rhan-amser fel derbynnydd.
Daeth o hyd i lwybr newydd ar ôl ymweld â’r llyfrgell leol ar gyfer “Amser Odli” gyda'i phlant .
"Gwelais y llyfryn hwn am gyrsiau rhan-amser i oedolion.
Cefais gip cyflym arno ac roedd yn dweud nad oedd angen unrhyw gymwysterau arnoch i gofrestru. Ro’n i’n llawn cyffro. Ffoniais i nhw yn syth ar ôl cyrraedd adref. Fe ddwedon nhw eu bod yn cynnal diwrnod agored y diwrnod hwnnw, felly fe es i lawr i gwrdd â’r tiwtoriaid. Ffawd oedd hyn.”
Drwy gwblhau'r Llwybr at radd yn llwyddiannus yn adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol y Brifysgol, cafodd gynnig diamod i astudio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
“Fe ymddiswyddais a dechrau astudio’n amser llawn,” meddai.
Cyfaddefodd fod ei diwrnod cyntaf o ddarlithoedd yn un brawychus. “Ro’n i’n nerfus iawn ac yn poeni y baswn i’n edrych yn rhy hen i fod yno. Ond doedd hyn ddim yn wir o gwbl. Roedd yna gymysgedd go iawn o bobl yn astudio.
“Fe wnes i ymgartrefu’n gyflym a mwynhau’r gwaith yn fawr. Roedd mynd i ddarlithoedd yn ysbrydoliaeth ac roedd y tiwtoriaid mor gefnogol, yn arbennig o’r ffaith fy mod i’n cydbwyso fy nghwrs gyda magu dau o blant.”
Wrth sôn am y seremoni raddio, dywedodd Alysha: "Roedd yn foment eithaf emosiynol. Dwi wedi gwneud ffrindiau newydd o bob cefndir, a dwi’n gwybod y byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad. Dwi’n edrych ymlaen at weld beth ddaw gyda’r dyfodol.”
I ddysgu mwy am lwybrau at radd, ewch i https://www.caerdydd.ac.uk/part-time-courses-for-adults/pathways-to-a-degree