Angerdd dros helpu cleifion yn arwain at lwyddiant academaidd
17 Gorffennaf 2018
Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa ym marn Alexandra Pyle.
A hithau’n fyfyriwr aeddfed a ddechreuodd ei gyrfa nyrsio yn ei phedwardegau, casglodd ei gradd meistr mewn Iacháu Clwyfau a Thrwsio Meinweoedd yn ystod wythnos graddio Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd y fenyw 58 oed, sy’n byw yn Nhrelái, Caerdydd: “Mae hon yn foment falch i mi. Dwi’n brawf y gallwch gyflawni unrhyw beth gydag ymdrech.”
Dyw’r llwybr heb fod yn rhwydd i Alexandra, a ddechreuodd nyrsio yn ddiweddarach yn ei bywyd ar ôl gweithio am flynyddoedd lawer fel partner rheoli ar gyfer contractwyr peintio. Yn fuan ar ôl dechrau astudio yn Plymouth, darganfu fod ganddi ddyslecsia.
“Roedd yn rhyddhad cael diagnosis”, dywedodd Alexandra, a gafodd ei magu yn Sidmouth, Dyfnaint. “Ro’n i wastad wedi teimlo fy mod i wedi ei chael hi’n anodd yn yr ysgol achos fy mod i’n dwp, ond mae fy ymennydd yn prosesu gwybodaeth yn wahanol i bobl eraill. Ro’n i’n fwy penderfynol fyth o brofi fy hun.”
Symudodd Alexandra i Gaerdydd saith mlynedd yn ôl ac mae hi’n gweithio yn adran dermatoleg Ysbyty Athrofaol Cymru. Yn ystod ei chyfnod yno, sylwodd ar fwlch gwybodaeth yn gysylltiedig â chyflwr briwiol prin, Pyoderma Gangrenosum (PG).
“Mae’r cyflwr yn un poenus iawn ac yn anablu cleifion sy’n dioddef ohono,” dywedodd Alexandra, sydd nawr yn ddirprwy reolwr ar yr uned. “Mae’r rhain, i bob pwrpas, yn glwyfau agored na fydd yn gwella heb ymyrraeth feddygol a, gan fod y cyflwr yn un prin, mae yna ddiffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ran sut i’w drin.”
Dechreuodd Alexandra, a oedd yn awyddus i newid y sefyllfa hon, astudio ei gradd meistr yn yr Ysgol Meddygaeth, gan gwblhau ei hastudiaethau o amgylch ei swydd llawn amser. Drwy gynnal cyfweliadau ac ymchwil gyda chleifion sy’n dioddef o’r cyflwr, llwyddodd i ddatblygu prosesau gwell i ddelio ag ef.
“Mae angen ei nodi a’i ganfod yn gynnar, neu gall arwain at flynyddoedd o anghysur i gleifion,” dywedodd. “Drwy’r gwaith hwn, mae adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru bellach yn gallu adnabod cleifion sy’n dod i mewn gyda PG yn well a’u hanfon yn uniongyrchol at ein tîm arbenigol, sy’n gallu dechrau mynd i’r afael â’r broblem yn syth. Gall hyn leihau’r amser gwella i gyn lleied a chwech i wyth wythnos. Roedd un person y gwnes i gwrdd ag ef wedi dioddef gyda’r broblem ers 16 mlynedd - mae bellach wedi gwella ac yn byw bywyd llawn a gweithgar.”
Aeth Alexandra ymlaen i gyflawni un o’r marciau uchaf hyd yn hyn yn ei thesis a theilyngdod yn ei gradd yn gyffredinol. Dywedodd: “Dwi wedi darganfod bod gennyf angerdd dros wella clwyfau. Dwi wedi mwynhau astudio’n fawr. Yr agwedd fwyaf boddhaol yw gallu helpu cleifion gyda fy ngwybodaeth newydd.”
Roedd ei merch Erin, sydd wedi bod yn “ffynhonnell enfawr o anogaeth”, meddai, yn y seremoni ddydd Mawrth.
“Dwi nawr yn edrych ‘mlaen at adeiladu ar yr ymchwil hwn a lledaenu’r neges am PG i helpu mwy o gleifion ledled y DU,” dywedodd Alexandra.