Ysgol yn croesawu hyrwyddwr dinasoedd clyfar i’w chymuned
17 Gorffennaf 2018
Mae Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd wedi penodi Peter Madden OBE, sy’n hyrwyddo dinasoedd clyfar, arloesedd a chynaliadwyedd, yn Athro Ymarfer Dyfodol Dinasoedd.
Cwblhaodd yr Athro Madden ei astudiaethau israddedig ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn ymgymryd â gradd ôl-raddedig yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae’n gyn-Brif Swyddog Gweithredol ar ‘Future Cities Catapult’ - canolfan arbenigedd ar arloesi trefol, yn Brif Swyddog Gweithredol ar ‘Forum for the Future’, yn Bennaeth Polisi yn Asiantaeth yr Amgylchedd, yn Gynghorydd Gweinidogol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn Gyfarwyddwr ar y ‘Green Alliance’ ac ar hyn o bryd mae’n cyflawni nifer o rolau anweithredol gydag amrywiaeth o sefydliadau. Mae’n aelod o Fwrdd Ystâd y Goron, yn Gadeirydd ar ‘Building with Natur’, yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Cynaliadwy Ingersoll Rand, ac yn Gyfarwyddwr-Sylfaenydd Ecovivid.
Wrth gyfeirio at ei benodiad, dywedodd yr Athro Madden: "Rwy'n gyffrous fy mod i’n gweithio gyda phrifysgol wych mewn dinas wych. Byddaf yn dod â'm profiad ymarferol, fy rhwydweithiau rhyngwladol a’m dealltwriaeth o'r hyn mae rhanddeiliaid am ei gael gan y byd academaidd, i baratoi’r myfyrwyr ar gyfer byd gwaith ac i leoli Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Caerdydd ar flaen y gad o ran ymchwil ar ddyfodol dinasoedd.
“Bydda i’n helpu i ymgysylltu â busnes a dinasoedd, er mwyn symbylu gwaith ar y cyd a mwyafu effaith ymchwil.”
Ychwanegodd yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Mae Peter yn arbenigwr cydnabyddedig yn fyd-eang ar gynaliadwyedd, arloesi a dinasoedd clyfar. Bydd ei gefndir academaidd, proffesiynol a pholisi yn llywio ei rôl newydd fel Athro Ymarfer Dyfodol Dinasoedd - gan helpu i hybu cymhwysiad ymarferol ysgoloriaethau er budd i ddiwydiant, llywodraeth a chymdeithas”.
Dyfarnwyd OBE i’r Athro Madden yn 2014 am wasanaethau i amddiffyn yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy yn 2014. Mae'n cyflwyno ac yn darlithio ar draws y byd ym maes arloesi trefol ac mae’n ysgrifennu erthygl reolaidd ar ddinasoedd clyfar i’r Huffington Post. Bydd yn ymgymryd â’i rôl newydd ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Llun 16 Gorffennaf 2018.