Menywod, adsefydlu a menter gymdeithasol
16 Gorffennaf 2018
Mae cynulleidfa o academyddion, entrepreneuriaid ac ymarferwyr creadigol wedi clywed am y modd y mae menter gymdeithasol yn cefnogi menywod i ddod o hyd i gyflogaeth ystyrlon yn y diwydiannau ffasiwn a chreadigol ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar.
Nod Behind Bras, sydd wedi'i sefydlu a'i arwain gan Barbara Burton, yw adsefydlu menywod sy'n gyn-droseddwyr drwy gyfrwng hyfforddiant a datblygiad personol sy'n gysylltiedig â dylunio a gweithgynhyrchu dillad isaf.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Elusen The Clink yng ngharchar Caerdydd – sy'n fenter gymdeithasol ynddi hi ei hun – lle mae carcharorion yn cynnal profiad o giniawa tra'n gweithio tuag at ennill cymwysterau a chyflogaeth ystyrlon yn y diwydiant lletygarwch, ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ddalfa.
Lansiwyd Behind Bras yng Nghymru yn sgîl cyflwyniad Barbara. Hwn hefyd oedd y cam cyntaf tuag at greu rhwydwaith cefnogol fydd yn helpu i noddi a chefnogi menywod sydd â diddordeb mewn dechrau o'r newydd.
Yn ogystal â rhannu ei phrofiad personol o adsefydlu, amlinellodd Barbara raglen ddatblygu'r sefydliad, sy'n helpu menywod i fod yn hunangynhaliol, ailintegreiddio â chymdeithas a lleihau achosion o aildroseddu.
Esboniodd mai llai na 10% o fenywod sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar sy'n dod o hyd i swyddi, a pham ei bod yn teimlo mor gryf bod pob menyw yn haeddu ail gyfle.
Gan weithio ar y cyd â'r Rhwydwaith Arloesedd Cyfrifol, mae Barbara hefyd am geisio sefydlu rhaglen entrepreneuraidd hefyd i fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd i weithio gyda menywod yng ngharchar Eastwood Park.
Bydd y cydweithrediad hwn yn ategu Addysgu Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol, sy’n ceisio trosglwyddo ymdeimlad moesegol a dychymyg cydymdeimladol i fyfyrwyr tuag at heriau cymdeithasol ac economaidd yr oes sydd ohoni.
Yn dilyn cyflwyniad Barbara, gwahoddwyd Claire Ritchie – Pennaeth Cyswllt yr Adran Ddylunio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr – i drafod y modd y gall ffasiwn fod yn achos er daioni.
Wrth ymgymryd â ffasiwn drwy ddylunio, marchnata a seicoleg, dadl Claire oedd y gall ffasiwn greu buddiannau cymdeithasol, gan gynnwys torri cylch torcyfraith, gwella sgiliau a galluogi, yn ogystal â buddiannau economaidd fel modelu busnes cynaliadwy a chreu cynnyrch.
Yn dilyn sesiwn holi ac ateb fywiog, daeth y digwyddiad i ben gyda phryd o fwyd blasus ym mwyty Clink.
Cewch wybod rhagor am genhadaeth Barbara ar wefan Behind Bras.