Cymrodoriaeth er Anrhydedd 2018
16 Gorffennaf 2018
Mae chwaraewr criced o'r radd flaenaf, diffoddwr tân blaenllaw, entrepreneur llwyddiannus a phrif weithredwr elusen genedlaethol ymhlith y rhai fydd yn Gymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd mewn seremonïau graddio yr wythnos hon. (Gorffennaf 16-20).
Bydd capten criced menywod Lloegr, Heather Knight OBE yn ymuno â Dirprwy Gomisiynydd Brigâd Dân Llundain, Dr Sabrina Cohen-Hatton, y mentor busnes Lyndon Wood a phennaeth Cymorth i Ferched Cymru, Eleri Butler MBE, i dderbyn yr anrhydeddau, a ddyfernir i unigolion sydd wedi ennyn cydnabyddiaeth ragorol yn eu maes.
Bydd pum unigolyn blaenllaw arall o amryw o feysydd arbenigol – gan gynnwys technoleg, trafnidiaeth ac addysg – hefyd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd. Mae'r rhain yn cynnwys Phil Smith, Cynthia Ogbonna ACMA, Yr Athro Lasarus Hangula, Valerie Le Vailannt OBE a David Anderson OBE.
Dyma restr gyflawn Cymrodorion Anrhydeddus 2018:
Heather Knight OBE (BSc 2012) yw capten tîm criced menywod Lloegr. Arweiniodd y tîm i lwyddiant yng Nghwpan y Byd yn haf 2017, gan godi’r tlws yng nghartref tîm criced Lloegr yn Lords, a dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaeth i fyd criced yn dilyn hynny.
Mae Dr Sabrina Cohen-Hatton (PhD 2014) yn Gomisiynydd Cynorthwyol sydd wedi ei secondio i Arolygiaeth ei Mawrhydi o Wasanaeth Heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Brigâd Dân Llundain. Mae hi hefyd yn seicolegydd arbrofol ac mae’n arwain ymchwil – sydd wedi ennill gwobr – am benderfyniadau hanfodol bwysig o ran risg sy’n gwella diogelwch ac yn chwyldroi'r polisi gorchymyn cenedlaethol ar gyfer yr holl wasanaethau brys.
Lyndon Wood yw un o entrepreneuriaid a mentoriaid busnes mwyaf llwyddiannus y DU. Mae ganddo rôl mewn nifer o sectorau gan gynnwys cyllid ac yswiriant, iechyd a ffitrwydd, y cyfryngau, eiddo a manwerthu. Ei angerdd mwyaf yw rhannu ei wybodaeth a’i brofiad i helpu busnesau ac unigolion i lwyddo.
Eleri Butler MBE yw Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru - sefydliad ymbarél cenedlaethol sy’n ceisio dod â thrais yn erbyn menywod i ben. Â hithau'n ymgyrchydd brwd dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, dyfarnwyd MBE iddi yn 2007 am ei gwasanaeth i fenywod a phlant sy’n profi trais yn y cartref.
Phil Smith yw Uwch-Gyfarwyddwr Annibynnol IQE PLC, cwmni uwch-ddeunyddiau blaenllaw yng Nghaerdydd. Mae arloesedd, sgiliau, technoleg, digido ac arwain yn feysydd sy’n agos iawn at ei galon, ac mae hefyd yn Gadeirydd Innovate UK a Tech Partnership.
Cynthia Ogbonna ACMA (MBA 1996) yw’r fenyw gyntaf yn hanes 110 o flynyddoedd Bws Caerdydd i gael ei phenodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae wedi gweithio i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a chynaliadwy ac hefyd wedi ymrwymo i’r cwmni fod yn gyflogwr cyflog byw.
Yr Athro Lazarus Hangula yw Is-Ganghellor Prifysgol Namibia ac un o sylfaenwyr Cymdeithas Prifysgolion Rhanbarthol Affrica Ddeheuol (SARUA). O dan ei arweiniad, mae Prifysgol Namibia bellach ymhlith 30 o brifysgolion gorau Affrica a derbyniodd Wobr Ddiemwnt Ryngwladol am Ragoriaeth mewn Ansawdd gan Gymdeithas Ewropeaidd Ansawdd Ymchwil.
Mae Valerie Le Vaillant OBE (BArch 1980) yn weithiwr proffesiynol aml-ddisgyblaethol mewn eiddo ac yn bensaer, cynllunydd tref, syrfëwr ac amgylcheddwr siartredig. Mae hi’n rheoli ymgynghoriaeth sy’n arbenigo mewn adfywio cymunedol cymhleth a phrosiectau datblygu cynaliadwy, yn ogystal â gwaith treftadaeth.
David Anderson OBE yw Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, a chyn-lywydd Cymdeithas yr Amgueddfeydd. Mae wedi cyhoeddi llawer ar amgueddfeydd, polisïau diwylliannol a hawliau diwylliannol, yn ogystal ag adroddiad Llywodraeth y DU ar amgueddfeydd a dysgu.
Bydd dros 7,000 o fyfyrwyr yn graddio yn y seremonïau eleni. Yn sgîl hynny, byddant yn ymuno â'r 160,000 o gynfyfyrwyr mewn dros 180 o wledydd, a chael manteisio ar lu o fuddiannau a gynigir i gynfyfyrwyr.
Caiff oddeutu 20,000 o ffrindiau eu croesawu i Gaerdydd ar gyfer y dathliadau. Mae'r digwyddiad – un o'r rhai mwyaf yng nghalendr y Brifysgol – yn cael ei ffrydio'n fyw ar ei gwefan.
Manylion y seremonïau Cymrodoriaeth er Anrhydedd:
- Yr Athro Lazarus Hangula: Dydd Llun 16 Gorffennaf, 4:30pm
- Valerie Le Vaillant OBE: Dydd Mawrth 17 Gorffennaf, 12:00pm
- David Anderson: Dydd Mawrth 17 Gorffennaf, 2:45pm
- Heather Knight, OBE: Dydd Mawrth 17 Gorffennaf, 5:30pm
- Phil Smith: Dydd Mercher 18 Gorffennaf, 1:15pm
- Eleri Butler: Dydd Mercher 18 Gorffennaf, 4:30pm
- Lyndon Wood: Dydd Iau 19 Gorffennaf, 2:45pm
- Dr Sabrina Cohen-Hatton: Dydd Gwener 20 Gorffennaf, 1:15pm
- Cynthia Ogbonna ACMA: Dydd Gwener 20 Gorffennaf, 4:30pm