Cydnabyddiaeth RTPI am 'wasanaeth rhagorol'
12 Gorffennaf 2018
Mae Dr Neil Harris wedi ennill Gwobr Gwasanaeth Rhagorol y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) 2018, mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniad sylweddol at ei waith a chefnogaeth ei egwyddorion.
Mae Dr Harris, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yn ymchwilydd uchel ei barch sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r fframweithiau cysyniadol er mwyn deall offerynnau a gweithrediad y system gynllunio statudol yn well.
Mae wedi bod yn eiriolwr dros y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol am gyfnod hir, yn benodol yng Nghymru, lle bu'n ymwneud â Bwrdd Rheoli Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru a'r Fforwm Polisi ac Ymchwil. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Banel Partneriaeth ac Achrediad y Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefol yn 2007.
Wrth ymateb i'r newyddion am ei fuddugoliaeth, dywedodd Dr Harris: "Mae hyn yn annisgwyl ond yn anrhydedd rwy'n mawr groesawu. Hoffwn ddiolch i'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol am gydnabod fy eiriolaeth ar gyfer gweledigaeth ac uchelgais y Sefydliad wrth gefnogi cynllunio a’r proffesiwn cynllunio ledled Cymru a'r DU.
Mae'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yn hyrwyddo ein diwydiant, ac yn gwneud gwaith gwych yn codi ei broffil a chyfathrebu gwerth ac effaith y cynllunwyr i gymunedau lleol, cymdeithasau ehangach a'r economi."
Derbyniodd Dr Harris ei wobr yng Nghynhadledd Cynllunio Cymru y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol ym mis Mehefin 2018.