Arwyddo cytundeb i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd
14 Gorffennaf 2015
Mae Prifysgol Caerdydd wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni waffer lled-ddargludo blaenllaw IQE, i sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru
Mae'r partneriaid wedi ffurfio cwmni menter newydd ar y cyd sydd â'r gallu i droi'r ddinas yn ganolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil i led-ddargludyddion cyfansawdd.
Bydd y fenter er elw – y cyntaf o'i math yn y DU – yn ceisio datblygu clwstwr o arbenigedd mewn datblygu a masnacheiddio technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Bydd y sefydliad yn gyrru'r gwaith o brofi a datblygu'r dechnoleg sy'n gyfrifol am eitemau mwyaf poblogaidd y byd, gan gynnwys ffonau clyfar a llechi, a bydd yn ysgogi newid ar draws sectorau, gan gynnwys gofal iechyd, biodechnoleg a chyfathrebu torfol.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Nod y Brifysgol yw bod yn un o 100 prifysgol orau'r byd, ac yn un o 20 prifysgol orau'r DU. Mae gwaith ymchwil sylfaenol yn hanfodol er mwyn cynnal twf academaidd, ac i wella iechyd, cyfoeth a lles cymdeithas. Bydd cyfuno seilwaith IQE gyda chryfderau parod Prifysgol Caerdydd o ran ehangu meysydd dyfeisiau a deunyddiau lled-ddargludo yn creu cyfleoedd arloesol a fydd yn ein gosod ar flaen y gad."
Yn ôl Dr Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE: "Mae'r fenter hon ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd yn gam allweddol wrth greu Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd, sy'n gweithio ar y raddfa Lefel Parodrwydd Technoleg (TRL: Technology Readiness Level) gyflawn, o ymchwil sylfaenol i gynhyrchu ar raddfa lawn. Ein nod yw adeiladu'r Clwstwr hwn yn un o bwysigrwydd a graddfa fyd-eang, sy'n arwain at fanteision economaidd eang ar gyfer y rhanbarth, ac sy'n darparu ystod eang o Dechnolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i gefnogi twf cyflym yr agendâu Technolegau Galluogi Allweddol, yn Ewrop a thrwy weddill y byd. Mae IQE yn edrych ymlaen at weithio'n agos ag ICS a'r fenter ar y cyd i fasnacheiddio'r technolegau newydd cyffrous hyn."
Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth: "Bydd y cwmni newydd hwn yn helpu i greu cyfleoedd masnachol ar gyfer y gwaith ymchwil rhagorol i led-ddargludyddion cyfansawdd a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd. Ynghyd â phenodi'r Athro Diana Huffaker, arbenigwr byd-enwog yn y maes, drwy ein rhaglen Sêr Cymru, mae Caerdydd bellach mewn sefyllfa i ddod yn ganolfan ar gyfer defnyddio a chynnal gwaith ymchwil i led-ddargludyddion cyfansawdd."
Bydd y cytundeb yn manteisio ar ddau gyhoeddiad diweddar sydd wedi cryfhau safle Caerdydd fel canolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil i led-ddargludyddion cyfansawdd. Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddyfarniad o £17.3m fel sylfaen i'r Sefydliad Ymchwil i Led-ddargludyddion Cyfansawdd - y cyntaf o'i fath yn y DU. Ym mis Mai, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd ei bod wedi penodi'r Athro Diana Huffaker yn Gadeirydd Deunyddiau ac Uwch Beirianneg drwy raglen £50m Llywodraeth Cymru, Sêr Cymru. Bydd yr Athro Huffaker, sydd ym Mhrifysgol California, Los Angeles (UCLA) ar hyn o bryd, yn arwain labordy ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd ym Mhrifysgol Caerdydd.